Beth yw Morlais
Prosiect Menter Môn yw Morlais sydd am sicrhau budd i gymunedau lleol a’r economi a helpu taclo newid hinsawdd trwy gynhyrchu trydan carbon isel o ynni adnewyddadwy.
Mae Morlais yn rheoli ardal 35 km2 o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i roi’r ynys ar y map o ran ynni llif llanw.
Roedd rhan gyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar geisio sicrhau caniatâd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturial Cymru i ddatblygu’r parth. Roedd ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r gymuned a rhan-ddeiliad yn rhan allweddol o hyn. Cyflwynwyd y cais am ganiatâd yn yr hydref 2019, a daeth caniatâd ym mis Rhagfyr 2021.
Mae ail ran y prosiect yn rhoi’r isadeiledd yn ei le fel y gall datblygwyr technoleg ynni llanw osod eu dyfeisiadau yn y môr. Y bwriad yw datblygu’r safle gam wrth gam sy’n golygu mai fesul dipyn fydd dyfeisiadau yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau na fydd effaith negyddol ar fywyd gwyllt.
Beth yw Menter Môn?
Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnes ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.
Am ragor o wybodaeth ar Menter Môn ewch i www.mentermon.com
Mwy am Morlais
- Bwriad Morlais yw rhoi isadeiledd yn ei le er mwyn galluogi datblygwyr technoleg ynni llif llanw i brofi eu dyfeisiadau ar raddfa fasnachol.
- Bydd datblygiad y safle fesul cam, gyda’r tyrbinau yn cael eu monitro’n ofalus – dim ond pan fydd hi’n glir nad oes effaith negyddol bydd dyfeisiau pellach yn cael eu gosod
- Mae gan Morlais y potensial i gynhyrchu hyd at 240 MW o drydan
- Bydd y trydan yn cael ei drosglwyddo o safle Morlais i’r Grid Cenedlaethol
- Mae’n bosib y bydd rhannau o rai o’r dyfeisiadau llif llanw i’w gweld uwchben wyneb y dŵr ond bydd eraill o’r golwg yn gyfan gwbl
- Bydd unrhyw rannau sy’n symud – megis tyrbinau neu rotorau yn aros o dan y dŵr bob amser
- Ar gyfer dibenion diogelwch bydd marcwyr yn cael eu gosod ar wyneb y dŵr er mwyn dangos ble mae peiriannau
- Bydd goleuadau tebyg i’r rhai sydd ar gychod yn cael eu gosod ar ddyfeisiadau ar wyneb y dŵr
- Bydd y trydan yn cael ei drosglwyddo i is-orsaf ar y lan gan hyd at 9 cebl tanfor
- Bydd y trydan yn cael ei drosglwyddo gan geblau tanddaearol o’r is-orsaf ar y lan i is-orsaf grid ble y bydd yn ymuno â’r brif rwydwaith drydan
Sut fydd Morlais yn dod a budd lleol?
- Creu 100 o swyddi da ar Ynys Môn yn y 10 mlynedd gyntaf
- Bydd yn helpu i daclo newid hinsawdd trwy gynhyrchu trydan glôn o ynni adnewyddadwy
- Gwella sgiliau lleol gyda phrentisiaethau a hyfforddiant
- Cydweithio gyda datblygwyr i sicrhau gwariant mwyaf posib yn lleol
- Cyfleoedd cadwyn cyflenwi i fusnesau lleol yn y cyfnod adeiladu ac i’r dyfodol
- Bydd Menter Môn yn cefnogi busnesau lleol i sicrhau cytundebau
- Mae’r prif gontractwr gwaith ar y tir yn gwmni o ogledd Cymru
- Bydd yr holl elw yn cael ei ail fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol a chymunedol trwy Menter Môn