Cynllun ynni llanw Môn – hwb i economi lleol gyda chyhoeddi contractwr lleol

Mae cwmni o ogledd Cymru wedi sicrhau’r prif gytundeb gwerth £23.5miliwn i adeiladu’r seilwaith ar gyfer Morlais, prosiect ynni morol Ynys Môn.

Mae Menter Môn, sy’n gyfrifol am y cynllun, wedi cyhoeddi fod cwmni Jones Bros Civil Engineering wedi sicrhau’r cytundeb a bydd y gwaith yn dechrau yn y gwanwyn.

Daw’r cyhoeddiad hwn yr un pryd â chadarnhad o £31 miliwn gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer cam cyntaf y gwaith adeiladu. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear hefyd wedi cefnogi’r prosiect.

Dywedodd Gerallt Llywelyn Jones, Cyfarwyddwr Morlais: “Rydym yn hynod o falch o gael gweithio gyda Jones Bros ar y prosiect pwysig hwn. Mae sicrhau budd i economi gogledd Cymru wedi bod yn bwysig i ni o’r dechrau a dyma pam roedden ni mor awyddus i greu rhywbeth â gwreiddiau lleol cryf. Dim ond y dechrau yw’r contract hwn wrth gwrs, ond mae’n garreg filltir bwysig i sicrhau y gallwn adeiladu cadwyni cyflenwi lleol a chreu cyfleoedd gwaith yma ar Ynys Môn ac ar draws y rhanbarth yn ehangach.

“Nid yr economi yn unig fydd ar ei ennill gobeithio. Gyda’r angen i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd yn dod yn fwy brys, mae’r gallu i gynhyrchu trydan o ynni carbon isel yn fwy o flaenoriaeth byth. Mae gan Jones Bros brofiad helaeth o gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy – ac rydym yn falch o’u cael nhw’n bartner i ni ar y cynllun hwn.”

Gyda’u pencadlys yn Rhuthun, Jones Bros fydd yn gyfrifol am adeiladu’r is-orsaf ar Ynys Cybi yn ogystal â gosod ceblau fydd yn cysylltu’r cynllun â’r Grid Cenedlaethol.

Ychwanegodd Eryl Roberts, Cyfarwyddwr Cytundebau Jones Bros: “Mae’n wych cael ein penodi i ddarparu’r seilwaith ar gyfer cynllun adnewyddadwy arloesol fel Morlais, yn enwedig gan ei fod yn gynllun sydd yn lleol i ni yma yng ngogledd Cymru.

“Fel cwmni rydym yn teimlo’n gryf am wireddu effeithiau positif ynni adnewyddadwy ac mae gan ein tîm enw da am weithio ar brosiectau o’r maint hwn ar draws y DU. Mae cael dod â’r sgiliau hynny i Ynys Môn  felly yn rhywbeth rydym yn ymfalchïo ynddo.

“Fel gyda’n holl brosiectau, byddwn yn darparu cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi leol ac yn creu prentisiaethau. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio yn fuan i gyflawni’r cynllun pwysig hwn.”

Morlais yw datblygiad ynni llanw mwyaf y DU i gael ei redeg gan fenter gymdeithasol ac wedi ei adeiladu bydd yn cynhyrchu trydan glân oddi ar arfordir Ynys Môn. Ers i Menter Môn ennill prydles Ystâd y Goron i reoli’r parth 35km2 yn 2014 – sicrhau swyddi lleol a hybu’r economi leol yw’r prif amcanion wedi bod.