Sesiynau 1:1 Cadwyn Gyflenwi
Cartref > Cadwyn Gyflenwi > Digwyddiadau > Sesiynau 1:1 Cadwyn Gyflenwi
Rydym yn ymrwymedig i greu effaith economaidd ranbarthol, tra’n gweithio gyda rhwydwaith eang o gyflenwyr ac arbenigwyr.
Mae'r sesiynau un-i-un hyn yn gyfle i fusnesau ac unigolion:
- Ddysgu mwy am brosiect Morlais a’r cyfleoedd sydd ar y gweill
- Rhannu eu gwybodaeth fusnes i’w chynnwys yn ein cyfeirlyfr cadwyn gyflenwi
- Drafod eu gwasanaethau ac archwilio sut gallant gefnogi’r sector ynni llanw
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Busnesau ac unigolion sydd am:
- Wella eu dealltwriaeth o brosiect ynni llanw Morlais
- Ymuno â chyfeirlyfr cadwyn gyflenwi Morlais
- Archwilio cyfleoedd cydweithio â’r sector ynni llanw
Beth fydd y sesiynau’n eu cynnwys?
- Trosolwg o brosiect Morlais
- Cyflwyniad i ynni llanw a gofynion y gadwyn gyflenwi
- Cyfle i rannu eich gwasanaethau a’ch gwybodaeth fusnes
- Canllawiau ar sut i gymryd rhan mewn cyfleoedd caffael sydd ar y gweill
Os oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn un-i-un anffurfiol, dilynwch y linc i gofrestru ar wefan Busnes Cymru: Business Wales Events Finder - Sesiynau Un-i-Un Cadwyn Gyflenwi Morlais
