Cadwyn Gyflenwi

Cartref > Cyfleoedd

Trwy Morlais, mae Menter Môn am sicrhau’r budd mwyaf posib i economi Ynys Môn ac ardal ehangach gogledd Cymru.

Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd yn ystod y cyfnod adeiladu ac unwaith y bydd y safle yn weithredol - gyda’r datblygwyr tyrbinau a gyda Morlais ei hun
Ers y cychwyn mae Morlais yn ymrwymo i wneud y mwyaf o wasanaethau a sgiliau lleol.
Dyma feysydd posib ble bydd cyfleodd busnes a swyddi yn codi:

  • Adeiladu arbenigol
  • Monitro amgylcheddol a geo-dechnegol
  • Ymgynghoriaeth morol
  • Saernïo a gwaith gosod terfynol
  • Llogi cychod
  • Gosod ceblau a chysylltiadau grid
  • Gosod systemau telegyfathrebu
  • Cynnal a chadw
  • Cyfleusterau porthladd
  • Swyddfeydd
  • Llety
  • Hyfforddiant

Mae Menter Môn wedi darparu gwasanaethau cymorth i fusnesau ers bron i 20 mlynedd ac felly’n gymwys iawn i adnabod a datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer Morlais.
Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at y nod ehangach o ddatblygu’r Ynys yn ganolfan sy’n arbenigo mewn ynni adnewyddadwy gan greu cyfleoedd ar gyfer swyddi o safon uchel.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi – tanysgrifiwch i’n rhestr bostio isod.

Tanysgrifio i’r rhestr bostio