Dr Edward Thomas Jones, Darlithydd Economeg yn Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor

Mae’r rhyfel yn Wcráin yn cryfhau’r galw i economi Gogledd Cymru gefnu ar danwyddau ffosil

Yn Ebrill 2020 gwthiodd Covid-19 ddyfodol olew i diriogaeth negyddol wrth i’r galw amdano ballu.  Golyga hyn fod cynhyrchwyr olew yn talu prynwyr i gymryd yr olew oddi ar eu dwylo o ganlyniad i bryderon y byddai capasiti storio yn dod i ben.  O fewn dwy flynedd, mae pris olew, ac adnoddau ynni eraill, wedi ymchwyddo gan achosi argyfwng ynni byd-eang.

Wrth i brisiau ynni gynyddu, felly hefyd mae prisiau popeth sydd wedi eu creu ohonynt, megis gwrtaith.  Mae hynny, ar ddiwedd y dydd, yn cynyddu pris bwyd, gan roi pwysau pellach ar gostau byw.

Ynni yw’r un o adnoddau mwyaf pwerus Rwsia ac mae’n ffynhonnell incwm a mantais wleidyddol allweddol wrth ddylanwadu ar Ewrop, gan ei bod yn gyfrifol am gyflenwi llawer o olew a nwy’r cyfandir.  Nid yw’r DU yn sylweddol ddibynnol ar olew a nwy Rwsia ond caiff ei heffeithio gan y cynnydd prisiau.  Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn pwysleisio bod yn rhaid symud oddi wrth danwyddau ffosil; mae dibyniaeth ar danwydd ffosil yn grymuso awdurdodwyr fel Vladimir Putin a chenhedloedd ystryw sy’n cynhyrchu olew.

Hyd at fis yn ôl, ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn unig oedd y prosiectau ynni adnewyddadwy.  Mae’r gwaith o annog ffynonellau adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau nawr yn flaenoriaeth ddiogelwch.   Mae gan brosiectau ynni adnewyddadwy, ynghyd â gweithgarwch carbon isel, swyddogaeth bwysig i ddiddymu ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil Rwsia.  Nid yw’r dasg hon o gefnu ar danwyddau ffosil yn un syml, ond mae Gogledd Cymru eisoes yn chwarae rhan hanfodol yn y trosglwyddiad hwn.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid o £4.8 miliwn ar gyfer datblygu ynni hydrogen yng Ngogledd-orllewin Cymru.  Mae hydrogen, a gynhyrchir drwy electrolysis, yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel ynni a all ddarparu swyddogaeth unigryw yn y trosglwyddiad i ffwrdd oddi wrth danwyddau ffosil.  Bydd y cyllid yn cynorthwyo i ddatblygu technoleg hydrogen yn y rhanbarth ac yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer economi Gogledd Cymru.  Mae Llywodraeth y DU o’r farn y gallai economi hydrogen DU gyfan fod â gwerth o £900 miliwn a chreu dros 9,000 o swyddi o ansawdd da erbyn 2030.  Mae gan Ogledd Cymru’r seilwaith a’r sgiliau angenrheidiol i elwa o’r economi hydrogen.

Ar ddechrau mis Mawrth, cyhoeddwyd bod y morlyn llanw £590 miliwn ar arfordir Sir y Fflint yn mynd yn ei flaen gyda dau ddatblygiad arwyddocaol.  Byddai’r cynllun ynni adnewyddadwy hwn yn darparu trydan carbon isel ar gyfer 82,000 o gartrefi.  Cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf y byddai Morlais, prosiect ynni morol oddi ar arfordir Ynys Môn, yn elwa o £31 miliwn o gyllid yr UE a fydd yn caniatáu iddo ddod yn un o’r safleoedd ynni morol mwyaf yn y byd.  Mae hwn yn debygol o fod y grant mawr olaf gan raglen cyllid rhanbarthol yr UE, ac nid yw’r llywodraeth Geidwadol wedi llwyddo i gynnig yr un swm o arian â’r hyn a gafwyd o gronfeydd yr UE cyn eu colli yn sgil Brexit.  Mae Morlais â’r nod o ddatblygu technolegau cynhyrchu pŵer morol drwy ddarparu cysylltedd grid a bydd ganddo’r gallu posibl i bweru dros 180,000 o gartrefi unwaith y bydd yn gwbl weithredol.

Mae’n anodd rhagweld sut bydd y sefyllfa yn Wcráin yn datblygu, fodd bynnag mae’n debygol ein bod yn gorfod wynebu cyfnod o brisiau ynni uchel a yrrir, yn bennaf, gan ryfel.  Mae’r argyfwng deuol o hinsawdd a diogelwch yn gofyn i ni barhau i gefnogi’r datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws Gogledd Cymru.