Mae asesiad diweddar o allu ieithyddol gweithwyr ar gynllun Morlais oddi ar arfordir Caergybi wedi dangos bod gan 93% sgiliau Cymraeg a bod 65% yn rhugl.
Un o addewidion Menter Môn ar gychwyn y cynllun ynni llanw oedd sicrhau bod yr ardal leol yn elwa. Mae’r ffigyrau diweddaraf yma yn dystiolaeth yn ôl Menter Môn bod Morlais yn cyflawni ar ei nod gwreiddiol ac yn sicrhau budd i’r gymuned gyda chyfleoedd swyddi.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, Dafydd Gruffydd: “Ers y cychwyn mae sicrhau budd yn lleol ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi bod yn allweddol i werthoedd Morlais. Mae’r ystadegau yma yn brawf o’r gwaith hwnnw, gyda mwyafrif helaeth o’r rhai sy’n arwain ac yn gweithio ar y prosiect yn siaradwyr Cymraeg ac yn byw’n lleol.
“Mae Jones Bros ac OBR Construction yn fusnesau Cymreig, ac rydym yn hynod o falch o allu gweithio mor agos efo nhw ar brosiect mor unigryw. Mae cysylltiad agos rhwng iaith a gwaith ac mae economi gref yn sefydlogi teuluoedd ac yn helpu gyda parhad yr iaith.”
Ychwanegodd Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn: “Mae hyn yn newyddion gwych ac eto yn dangos effaith gadarnhaol y prosiect ar yr iaith Gymraeg a’r gymuned leol. Mae prinder swyddi mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd orllewin Cymru ac o ganlyniad i hynny mae allfudo yn her sylweddol. Mae’n braf felly gweld cwmnïau yn cyflogi pobl leol yn y sector adeiladu.
“Fel menter iaith rydym yn falch iawn o weld bod y Gymraeg yn rhan annatod o’r byd gwaith yma ar yr ynys a bod ein partneriaid yn defnyddio’r iaith yn naturiol o ddydd i ddydd.”
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.