Golau, camera ac action wrth i gontractwr Morlais serennu yn ymgyrch Gyrfa Cymru

Mae Hefin Lloyd-Davies, Cyfarwyddwr Cytundebau gyda chontractwr Morlais, Jones Bros wedi cael rôl flaenllaw gan ymgyrch Gyrfa Cymru yn ddiweddar i hyrwyddo manteision y Gymraeg mewn busnes.

Cysylltodd Gyrfa Cymru gyda’r cwmni peirianneg sifil sydd ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith i adeiladu is-orsaf Morlais, wedi iddynt ddod i wybod am bolisi iaith Gymraeg Jones Bros, a’r gwerth y mae yn ei roi ar gysylltu â’r gymuned leol yn Gymraeg.

Mae Gyrfa Cymru, sy’n rhan o Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor di-duedd i fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau ystyried gyrfaoedd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymgyrch bresennol yn canolbwyntio ar werth a manteision y Gymraeg a dwyieithrwydd i gefnogi Cymraeg 2050, sef polisi Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Cafodd Hefin ei gyfweld ar safle’r prosiect yn Gymraeg ac yn Saesneg fel rhan o’r ymgyrch gan ymddangos ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru. Dywedodd: “Roedd gallu hyrwyddo’r Gymraeg ar ein safle yn brofiad arbennig, gan fod yr iaith i’w glywed yn amlwg yma. Ar brosiect fel Morlais, mae nifer o’r staff yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn ogystal a gyda’r trigolion lleol.

Mae’n swnio’n syml, ond mae gallu esbonio beth rydyn ni’n ei wneud, faint o amser rydyn ni’n bwriadu ei gymryd, a’r sgileffeithiau, yn Gymraeg yn bwysig iawn i bobl.”

Ychwanegodd Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr gyda Morlais: “Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig budd i’r gymuned, felly mae’n wych bod y rhai sy’n gweithio ar y safle ac yn ein swyddfeydd yn gallu siarad eu mamiaith tra’n gweithio. Mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo gan Jones Bros sy’n gweithio ar yr ymgyrch hon gyda Gyrfa Cymru mewn sector sydd ddim yn cael ei gydnabod yn arferol am ei ddefnydd o’r iaith.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.