Monitro effaith yn ganolog i gynllun Morlais

Ers i’r fenter gymdeithasol, Menter Môn ennill y cytundeb i reoli parth arddangos ynni llanw Morlais, mae gwrando ar bobl a sefydliadau yn lleol, ac arbenigwyr wedi bod yn ganolog i’r gwaith.

Sicrhau budd mwyaf posib i’r ardal yw bwriad Menter Môn gyda’r prosiect ac mae hynny yn cynnwys yr amgylcheddol yn ogystal â’r economaidd a chymdeithasol.

Mae un o gyfarwyddwr Morlais, Gerallt Llewelyn Jones yn egluro mwy: “Fel prosiect sy’n cael ei redeg yn lleol rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod Môn a gogledd Cymru yn ehangach yn elwa cymaint â phosib o’r cynlluniau yma i gynhyrchu ynni glân, carbon isel. Ac am ein bod ni’n lleol rydan ni yn ymwybodol iawn hefyd am yr angen i drafod a gwrando ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

“Mae statws Ynys Lawd fel ardal o harddwch eithriadol ac o safbwynt sensitifrwydd amgylcheddol yn bwysig iawn i ni ac rydym wedi gwneud gwaith asesu sylweddol er mwyn deall effaith posib Morlais. Rydym hefyd wedi gweithio gydag arbenigwyr ar hyd y daith ac wedi ymgynghori yn rheolaidd a chyson gyda’r RSPB.

“Un o’r pwyntiau mae’r RSPB yn godi yn eu datganiad yw’r angen i weithredu cam wrth gam – a dyma yn union rydan ni yn bwriadu ei wneud ac wedi ei amlinellu yn ein cais i Lywodraeth Cymru. Bydd tyrbinau yn cael eu gosod yn y môr fesul dipyn – gyda monitro agos o’r effaith ar fywyd gwyllt.

“Rydan ni yn hyderus bod ein gwaith ymchwil yn drylwyr ac y gallwn symud ymlaen gan wybod na fydd impact ar fywyd gwyllt. Ond rydym hefyd yn barod iawn i barhau i wrando ac i ddysgu a dim ond pan fydd hi’n gwbl amlwg na fydd effaith negyddol ar adar a mamaliaid morol y byddwn yn gosod tyrbinau pellach yn y dŵr.

“Mae datganid RSPB yn siom i ni gan ein bod wedi trafod efo nhw yn rheolaidd ac wedi gwrando ar adborth. O ganlyniad i’r sgyrsiau efo nhw ac eraill rydym yn bwriadu gosod tyrbinau mewn ffordd sydd wedi ei reoli yn ofalus iawn ac mewn ffordd na fydd yn achosi’r niwed maen nhw yn honni.”

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Fel sefydliad rydan ni wedi bod yn gweithredu ar brosiectau amgylcheddol a bywyd gwyllt ar yr ynys ers chwarter canrif, gan gynnwys adfer y wiwer goch a datblygu llwybr yr arfordir. Lles ein cymunedau sy’n gyrru ni fel cwmni ac mae hyn yn ganolog i’n prosiectau i gyd – nid yw Morlais yn eithriad, gyda chyfle gwirioneddol yma i ddod a swyddi i’r ardal yn ogystal â chymryd camau cadarnhaol i daclo newid hinsawdd.

“Mae heriau newydd yn ein hwynebu ni erbyn hyn hefyd wrth gwrs ac mae’r pandemig wedi dangos bod angen i ni feddwl yn wahanol am economi ac amgylchedd a’r berthynas rhwng y ddau. Rhaid i ni rŵan edrych o ddifri ar adferiad gwyrdd gan gynnwys ffyrdd mwy cynaliadwy o gynhyrchu ein trydan – dyma yn union mae Morlais yn gynnig. Mae angen i’n hymdrechion i weithio tuag at darged llywodraeth o leihau carbon fod yn fwy na datganiadau di-sail, gyda’r angen i weithredu yn bwysicach nag erioed. Mae cynllun Morlais yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth ac ar yr un pryd dod a swyddi a budd economaidd i ardal sydd wir eu hagen.”

Mae Morlais wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch gyda Llinos Iorwerth/ Rhys Evans yn Ateb am wybodaeth bellach. 01248 534200/ 07970 997124 post@atebcymru.wales

Gwybodaeth i olygyddion:

  1. Mae’r model ar gyfer Morlais yn unigryw. Mae’n barth arddangos wedi ei ddynodi gan Stad y Goron i hyrwyddo datblygiad technoleg ynni llanw. Mae hyn yn golygu mai math o beilot yw cynllun Morlais sy’n ceisio sicrhau caniatâd i ddatblygwyr technoleg ynni llanw brofi eu technoleg ar raddfa fasnachol.
  2. Sicrhaodd Menter Môn brydles 45 mlynedd gan Stâd y Goron ar gyfer “Parth Arddangos Gorllewin Môn” yn 2014. Sefydlwyd Morlais gan Menter Môn i reoli’r brydles hon a sicrhau’r budd lleol mwyaf posib i Fôn. Mae’r parth yn un o nifer ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi’u lesu gan Stâd y Goron mewn ymgais i annog a chyflymu datblygiadau technolegol yn y sector hwn.
  3. Mae gan Morlais y potensial i ehangu dros amser i gapasiti cynhyrchu o 240MW o drydan – yr amcangyfrif yw bod hyn yn ddigon ar gyfer tua 180,000 o aelwydydd Cymreig.
  4. Mae Morlais wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru o dan Deddf Gwaith a Thrafnidiaeth am ganiatâd i ddatblygu cynllun Morlais ac i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded Morol – mae’r broses hon yn mynd rhagddi.
  5. Mae deg datblygwr technoleg ynni llif lanw eisoes wedi ymrwymo i weithio gyda Menter Môn ar Morlais os yw’r cynllun yn cael caniatâd.
  6. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnes ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.