Mae Gorsaf Bad Achub Bae Trearddur wedi diolch i weithwyr ar safle ynni llanw Morlais gerllaw am gyfrannu £110.
Fe gymerodd criw contractwyr Jones Bros Civil Engineering UK ran mewn swîp yn ystod Cwpan y Byd FIFA yn Qatar ar ddiwedd y flwyddyn i godi arian tuag at y bad achub. Mae’r elusen yn cael ei chefnogi’n gyfan gwbl gan gyfraniadau gwirfoddol. Mae’n dibynnu ar garedigrwydd y cyhoedd, ac wrth i bawb deimlo effeithiau yr argyfwng costau byw, mae elusen bad achub yr RNLI yn derbyn llai o roddion.
Dywedodd Bill Rogerson, Trysorydd Anrhydeddus Gorsaf Bad Achub Bae Trearddur: “Rydym yn hynod ddiolchgar o gael derbyn y cyfraniad gan griw Jones Bros. Mae’r arian yn hwb i’n helpu ni i gynnal safonau uchel ein badau achub ac ein hoffer yn yr orsaf. Mae sicrhau ein bod yn barod ar gyfer unrhyw argyfwng yn hollbwysig i unrhyw dîm bad achub, felly roeddem yn falch iawn pan glywsom am rodd Jones Bros.
“Mae derbyn cyfraniadau gan gwmnïau lleol yn hanfodol i ni fel gwirfoddolwyr; mae pob rhodd yn ein helpu i achub bywydau ar y môr.”
Ychwanegodd Bryn Williams o Jones Bros: “I ddangos ein gwerthfawrogiad o’r gwaith diflino maen nhw’n ei wneud, roedden ni eisiau cyfrannu tuag at y bad achub ym Mae Trearddur.
“Mae gwella’r amgylchedd leol a chymryd rhan yn y gymuned yn eithriadol o bwysig i ni, felly roeddem wrth ein bodd yn gallu codi arian ar gyfer elusen mor bwysig.”
Morlais yw’r datblygiad ynni llanw mwyaf o’i fath yn y DU sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol. Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau bydd trydan glân yn cael ei gynhyrchu oddi ar arfordir Ynys Môn, gyda’r potensial dros amser i gynhyrchu hyd at 240MW.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.