Contractwr Morlais yn cynnig cyfle i garfan newydd o brentisiaid uwch

Mae contractwr Morlais, Jones Bros Civil Engineering UK, wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd lleol trwy groesawu 10 o brentisiaid uwch newydd. Byddant yn gweithio ar wahanol brosiectau gan gynnwys un Morlais.

Un o’r prentisiaid diweddaraf i gael ei recriwtio ydy Twm Tudor, 19 oed o Fryngwran, Ynys Môn, sydd wedi dechrau gweithio ar brosiect Morlais y mis hwn.

Yn siarad am weithio ar y cynllun, sydd tua 10 milltir i ffwrdd o’i gartref, dywedodd y siaradwr Cymraeg rhugl: “Dwi methu aros i fod yn rhan o’r tîm sydd yn gweithio ar Morlais, mae’n gyfle cyffrous iawn a dwi’n ysu i daflu’n hun i mewn i’r gwaith.

“Mae gallu gweithio yn y diwydiant peirianneg sifil yn fy ardal leol yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau ei wneud erioed.

“Trwy ddechrau ar y prosiect hwn, dwi’n gobeithio y byddaf yn gallu datblygu fy ngyrfa trwy weithio gyda pheirianwyr sifil profiadol sydd hefyd yn dod o’r ardal.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fod allan ar y safle ac i ddysgu yn y swydd.”

Ychwanegodd Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr Morlais: “Mae bod o fudd i’r gymuned leol yn eithriadol o bwysig i ni, felly mae’n wych clywed bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr sy’n dod i weithio ar brosiect Morlais yn dod o’r gymuned hon. Mae Jones Bros yn cynnig cyfleoedd gwych i beirianwyr sifil ifanc yng ngogledd Cymru, a gobeithio y byddant yn parhau i gynnig y cyfleoedd yma am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.