Bydd prosiect ynni llanw Môn yn mynd â’i neges i gynulleidfa genedlaethol yr wythnos hon wrth fynychu cynhadledd Ynni Morol Cymru (MEW) yn Abertawe.
Am yr ail flwyddyn bydd gan Morlais bresenoldeb yn y digwyddiad proffil uchel hwn, gan gynrychioli Menter Môn, a rhoi gogledd Cymru ar y map o ran ynni adnewyddadwy.
Bydd y digwyddiad sy’n cael ei gynnal yn Arena Abertawe yn gyfle i gynrychiolwyr o’r sector ynni morol yng Nghymru a thu hwnt, i rannu’r newyddion a’r datblygiadau arloesol diweddaraf o brosiectau amrywiol ledled y wlad. Nod y tîm fydd ehangu ei rhwydweithiau a gwneud cysylltiadau newydd gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod y digwyddiad deuddydd.
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Morlais, Gerallt Llewelyn Jones: “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid o fewn y diwydiant, ac i drafod a dysgu am y prosiectau gwahanol sydd yma yng Nghymru. Morlais yw’r prosiect cyntaf o’r maint yma i sicrhau caniatâd yn y DU, ac mae digwyddiadau fel hyn yn lwyfan i ni dyfu ein presenoldeb yn y diwydiant, tra’n rhannu gwybodaeth a all fod o fudd i bob un ohonom yn y dyfodol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n glir bod datblygu ynni adnewyddol morol yn flaenoriaeth ac maen nhw wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y prosiectau hynny sydd â’r potensial i ddod â budd economaidd sylweddol i Gymru. Rydyn ni’n sicr yn awyddus i fod yn rhan o hynny.”
Cyfarwyddwr Masnachol Morlais, John Jenkins, bydd yn arwain presenoldeb Morlais yn y gynhadledd, ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Morlais yn nigwyddiad MEW yn Abertawe eleni. Mae gan ynni morol gymaint i’w gynnig yma yng Nghymru felly mae’n wych gweld y sector gyfan yn dod at ei gilydd i arddangos y gwaith arbennig rydym yn ei wneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar ac i leihau allyriadau carbon drwy ynni llanw.”
Bydd John yn rhan o drafodaeth banel ‘Dosbarth Meistr Ynni Llif Llanw’ gyda cynrychiolwyr eraill o’r sector, yn ogystal bydd gan Morlais stondin yn y digwyddiad.
Mae Morlais yn lansio ei ffrwd LinkedIn i gyd-fynd gyda chynhadledd MEW.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.