Gall Morlais fod ymysg y prosiectau cyntaf i fanteisio ar Fargen Twf Gogledd Cymru

Mae Bargen Twf Gogledd Cymru wedi cymryd cam sylweddol ymlaen yr wythnos hon wrth i’r partneriaid gytuno’r pum rhaglen sy’n rhan o’r fargen £240 miliwn.

Gyda’r cytundeb yn ei le gall prosiect ynni llanw Môn, sef Morlais, fod ymysg y prosiectau cyntaf i fanteisio. Ac yn ddibynnol ar ganiatâd i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mae’n bosib y bydd gwaith ar Morlais yn cychwyn mor fuan â 2021, gan ddod a chyfleodd economaidd sylweddol i’r ynys.

Y fenter gymdeithasol, Menter Môn sy’n gyfrifol am Morlais – ac un o amcanion allweddol y cynllun yw sicrhau budd i’r  gymuned leol.

Mae Gerallt Llewelyn Jones, sy’n gyfarwyddwr gyda Morlais yn croesawu cyhoeddiad yr wythnos hon. Dywedodd: “Mae hwn wir yn newyddion da ac yn hwb sylweddol i’n hymdrechion i sicrhau arian ar gyfer y cynllun. Gan ddibynnu ar ein hachos busnes gall Morlais dderbyn hyd at £9miliwn o’r Fargen fyddai’n rhyddhau cyllid pellach o £26 miliwn o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

“Cadw’r budd yn lleol yw’r prif ysgogiad i ni wrth geisio datblygu Morlais. Mae’r potensial i greu tua 100 o swyddi  yma yn y 10 mlynedd gyntaf, gyda llawer mwy yn y gadwyn cyflenwi ar draws gogledd Cymru gyfan. Mae cryn waith ar ôl i’w wneud, ond gall y cytundeb yr wythnos hon fynd yn bell o ran sicrhau bod y prosiect yn dod i fodolaeth. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydan wedi ei dderbyn hyd yma gan lywodraeth Caerdydd a Llundain, yn ogystal â llawer o bartneriaid eraill mewn nifer o sectorau.”

“Elfen bwysig iawn o’r Fargen Twf yw sicrhau ein bod ni’n gallu adeiladu economi gynaliadwy, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth i ni wynebu adferiad wedi COVID19. Gyda mwy o bwyslais ar daclo newid hinsawdd – mae llywodraeth Cymru a San Steffan wedi ei gwneud hi’n glir bod lleihau carbon yn flaenoriaeth. Mae ynni llanw yn garbon isel ac yn ddibynadwy. Ein nod ni gyda Morlais felly yw chwarae rhan wrth gynhyrchu trydan glân a gwneud defnydd doeth o’n hadnoddau naturiol.”

Os yw’r caniatâd angenrheidiol yn cael ei sicrhau ar gyfer cynllun Morlais, bydd adeiladu a gweithredu’r prosiect yn digwydd fesul cam. Mae disgwyl i waith ar y tir ddechrau yn 2021, ac yna ar y môr yn 2023.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer caniatâd a datblygu gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Sir Ynys Môn.

 

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Llinos Iorwerth, Ateb: 01248 534200/ 07970997124 neu llinos@atebcymru.wales

 

Gwybodaeth i olygyddion

  1. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru i gyflawni ystod o brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er lles cymunedau lleol. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnesau ac unigolion, mae Menter Môn yn denu nawdd o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.
  2. Cafodd Parth Morlais ei ddynodi gan Stad y Goron ar gyfer datblygiad ynni llanw yn 2013 – enillodd Menter Môn y les i reoli’r safle yn 2014. Mae’n o sawl parth tebyg ar draws y DU – wedi eu dewis oherwydd adnoddau naturiol ac isadeiledd er mwyn hyrwyddo a datblygu sector ynn morol.
  3. Er mwyn cael caniatâd i ddatblygu a gweithredu parth arddangos Morlais, mae Menter Môn wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith. Hefyd, mae cais wedi’i wneud i Dîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded morol dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Cyflwynwyd y cais am ganiatâd ym mis Medi 2019. Bydd y ddwy broses yn cyd-redeg â’i gilydd.
  4. Y cynnig ar gyfer Morlais yw datblygu’r isadeiledd angenrheidiol er mwyn defnyddio technoleg llif llanw i gynhyrchu trydan. Bydd y cynllun yn caniatáu i ddatblygwyr technoleg ynni llanw brofi eu dyfeisiadau ar raddfa fasnachol gyda llwybr i’r rhwydwaith dosbarthu’r grid cenedlaethol. Mae gan Morlais y potensial i ehangu dros amser i gapasiti cynhyrchu o 240MW o drydan– yr amcangyfrif yw bod hyn yn ddigon ar gyfer tua 180,000 o aelwydydd. Fesul cam fydd y cynllun yn cael ei weithredu a bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i gyrraedd y capasiti llawn yma.