Mordwyo
Mae Prosiect Morlais am sicrhau y gall morwyr barhau i fordwyo yn ddiogel mewn ardal sydd eisoes yn cael ei gydnabod fel ardal fordwyo heriol. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd Caergybi fel porthladd pob tywydd a’r angen i sicrhau bod morwyr yn gallu teithio yn ddiogel i mewn ac allan oddi yno. I’r perwyl hwn rydym wedi cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’r rhai sydd â diddordeb mewn mordwyo yn yr ardal yma.
Rydym wedi gwrando’n ofalus ar y pryderon sydd wedi eu codi gan forwyr, hwylwyr ac eraill sy’n defnyddio’r môr yn yr ardal ar gyfer dibenion hamdden ac wedi gweithredu i asesu a delio â’r rhain gan gynnwys creu Asesiad Risg Mordwyo (NRA) trylwyr ac eang yn unol â’r canllawiau a nodwyd gan y cyrff rheoleiddio. Bydd y broses hon yn parhau wrth i’r prosiect symud ymlaen.
Rydym hefyd wedi gweithio’n galed i asesu a lliniaru unrhyw newid i risgiau mordwyo o ganlyniad i brosiect Morlais. Mae’r manylion ar gael mewn dogfen sy’n cael ei galw yn ‘NRA’ – mae hon wedi ei datblygu gan arbenigwyr morol.
Rydym yn ymwybodol bod morwyr hamdden /pleser gan gynnwys hwylwyr, cychwyr modur a caicawyr yn defnyddio’r ardal yn agos at yr arfordir, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf ac felly rydym wedi talu sylw arbennig i sicrhau y gallant barhau wneud hyn yn ddiogel ar ôl y cyflwyno Parth Arddangos Morlais.
Mae’n bwysig nodi bydd Morlais yn cael ei ddatlbygu fesul dipyn dros nifer flynyddoedd.
Llinell Amser
Wyddech chi
- Mae disgwyl i ddyfeisiadau llanw orchuddio llai na 20% o ardal 35km2 Morlais yn y 10 i 15 mlynedd cyntaf y prosiect.
- Nid ydym yn ceisio atal morwyr rhag cael mynediad at ardal Morlais. Er diogelwch bydd rhywfaint o gyfyngiadau yn ystod adeiladu ac ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw.
- Rydym wedi lleihau’r ardal ble bydd dyfeisiadau ar yr wyneb wrth 60% o ganlyniad i ymgynghoraid.
- Bydd dyfeisiadau llif llanw yn cael eu gosod yn y môr dros gyfnod o flynyddoedd a bydd bob cam yn cael ei gymryd dim ond pan fydd asesiad llawn o risgiau mordwyo wedi cael eu hail asesu. unrhyw adborth a gwersi mordwyo i’w dysgu o’r cam blaenorol yn cael eu hystyried yn ofalus.
- Lleiafswm lled yr ardal ger y lan fydd 1 cilomedr (ac yn gyffredinol mae’n llawer lletach na hyn). Mae hyn yn cyfateb i dros 30 o fferïau ochr yn ochr!
- Mae gan 60% o’r parth o leiaf 8 metr o le o dan y cilbren (UKC) ar y llanw isaf.
Darn o Gyfarwyddiadau Hwylio Imray ar gyfer Ynys Mon C52 Admiralty 1413 – Ynys Môn – Bae Caergybi
Canllawiau ar gyfer yr ardal penodol hwn:
“Mae Ynys Lawd yn ardal o fôr hynod dymhestlog ac mewn amodau trwm mae angen taith o 7 milltir i osgoi gorlifiadau a ffrydlif llanw.”
Ymhellach “Os bydd unrhyw arwydd o ffrydlif llanw oddi ar y naill stac/ craig, gallai fod yn fanteisiol i aros yn agos at y clogwyni a thorri trwy’r ffrydlif mor agos â phosibl at y creigiau. Gall fod yn beryglus ceisio mynd o amgylch y staciau, i’r naill gyfeiriad, mewn unrhyw fath o wynt dros amodau’r llanw neu gyda gwyntoedd o rym 5 neu fwy.”
Ar gyfer cefndir y prosiect ac amserlen, ewch i’r dudalen gartref
Am enghreifftiau o wahanol ddyfeisiau ynni llif cliciwch yma
Pwysig: Ni ddylid defnyddio delweddau a gwybodaeth ar y wefan hon ar gyfer Mordwyo.
Delweddau
Enghraifft o’r gosodiad disgwyliedig yn ystod Cam 1 (~ 12MW) yn dangos parthau gwahardd gweithredol
Enghraifft o gyfanswm y gosodiad disgwyliedig yn ystod Cam 2/3 (~ 100MW) yn dangos parthau gwahardd gweithredol
Enghraifft o gyfanswm y gosodiad llawn disgwyliedig (~ 240MW) yn dangos parthau gwahardd gweithredol
Cynllun enghreifftiol tyrbinau i wneud y defnydd orau o gyflymder llif cymedrig
(nid yw’r tyrbinau o dan y ddŵr yn yr ardaloedd 8m ac 20m UKC yn cael eu dangos)
Ardaloedd wedi eu lliwio yn dangos cyfyngiadau ar y mathau o dyrbinau a ganiateir ac sy’n dangos parthau gwahardd gweithredol