Croesawu’r Prif Weinidog a Gweinidogion Newid Hinsawdd ar stondin Morlais yng Nghynhadledd MEW

31/03/2023

Yn ddiweddar fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Julie James y Gweinidog Newid Hinsawdd ymweld â thîm Morlais yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru yn Arena Abertawe. Roedd arbenigwyr y diwydiant, llunwyr polisi ac ymchwilwyr yn bresennol yn y gynhadledd i drafod dyfodol ynni morol a’i effaith bosibl ar economi Cymru. Yn ystod ei […]

Cydweithio yn allweddol i lwyddiant Porthladd Rhydd

27/03/2023

Mae Menter Môn wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar bod Caergybi wedi cael ei ddynodi yn Borthladd Rhydd. Mewn cais wedi ei arwain gan Gyngor Sir Ynys Môn, roedd cynllun ynni llanw Morlais a Hwb Hydrogen Caergybi, ill dau yn brosiectau Menter Môn, yn cael eu cydnabod fel elfennau allweddol o’r cais […]

Morlais yn paratoi ar gyfer Cynhadledd Ynni Morol Cymru 2023

17/03/2023

Bydd prosiect ynni llanw Môn yn mynd â’i neges i gynulleidfa genedlaethol yr wythnos hon wrth fynychu cynhadledd Ynni Morol Cymru (MEW) yn Abertawe. Am yr ail flwyddyn bydd gan Morlais bresenoldeb yn y digwyddiad proffil uchel hwn, gan gynrychioli Menter Môn, a rhoi gogledd Cymru ar y map o ran ynni adnewyddadwy. Bydd y […]

Contractwr Morlais yn cynnig cyfle i garfan newydd o brentisiaid uwch

23/02/2023

Mae contractwr Morlais, Jones Bros Civil Engineering UK, wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd lleol trwy groesawu 10 o brentisiaid uwch newydd. Byddant yn gweithio ar wahanol brosiectau gan gynnwys un Morlais. Un o’r prentisiaid diweddaraf i gael ei recriwtio ydy Twm Tudor, 19 oed o Fryngwran, Ynys Môn, sydd wedi dechrau gweithio ar […]

Golau, camera ac action wrth i gontractwr Morlais serennu yn ymgyrch Gyrfa Cymru

30/01/2023

Mae Hefin Lloyd-Davies, Cyfarwyddwr Cytundebau gyda chontractwr Morlais, Jones Bros wedi cael rôl flaenllaw gan ymgyrch Gyrfa Cymru yn ddiweddar i hyrwyddo manteision y Gymraeg mewn busnes. Cysylltodd Gyrfa Cymru gyda’r cwmni peirianneg sifil sydd ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith i adeiladu is-orsaf Morlais, wedi iddynt ddod i wybod am bolisi iaith […]

Contractwr Morlais yn cyfrannu at helpu i achub bywydau ar y môr

24/01/2023

Mae Gorsaf Bad Achub Bae Trearddur wedi diolch i weithwyr ar safle ynni llanw Morlais gerllaw am gyfrannu £110. Fe gymerodd criw contractwyr Jones Bros Civil Engineering UK ran mewn swîp yn ystod Cwpan y Byd FIFA yn Qatar ar ddiwedd y flwyddyn i godi arian tuag at y bad achub. Mae’r elusen yn cael […]

Newyddion am weithgaredd o fewn Parth Arddangos Morlais

24/01/2023

Gosod Dyfeisiadau Proffilio Cerrynt Acwstig Doppler ‘Acoustic Doppler Current Profiler’ (ADCP) ym Mharth Arddangos Morlais (y Parth) Llwyddodd HydroWing, un o ddatblygwyr technoleg Morlais, i osod 2 ddyfais ADCP yn y Parth dros wythnos y 16fed o Ionawr 2023. Maent wedi’u lleoli yn y mannau canlynol: 53⁰682 N 004⁰ 42.561 W 53⁰333 N 004⁰ 42.634 […]

Diweddariad Cyfnod y Nadolig

21/12/2022

Bydd y ffyrdd o gwmpas safle Morlais i gyd ar agor dros gyfnod y Nadolig a ni fydd unrhyw wyriadau ar waith. Bydd timau diogelwch yn bresennol ar ein safleoedd dros yr ŵyl. Mewn argyfwng cysylltwch gyda’r rhif ffôn canlynol: 01248 847404. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad drwy gydol y flwyddyn. Nadolig Llawen a […]

Y Gymraeg yn ganolog i ddatblygiad ynni llanw

19/12/2022

Mae asesiad diweddar o allu ieithyddol gweithwyr ar gynllun Morlais oddi ar arfordir Caergybi wedi dangos bod gan 93% sgiliau Cymraeg a bod 65% yn rhugl. Un o addewidion Menter Môn ar gychwyn y cynllun ynni llanw oedd sicrhau bod yr ardal leol yn elwa. Mae’r ffigyrau diweddaraf yma yn dystiolaeth yn ôl Menter Môn […]

Passive Acoustic Monitoring (PAM) – wedi cael ei osod ym Mharth Arddangos Morlais

19/12/2022

Passive Acoustic Monitoring (PAM) – wedi cael ei osod ym Mharth Arddangos Morlais Mae Prifysgol St Andrews Sea Mammal Research Unit (SMRU) wedi gosod offer (Passive Acoustic Monitoring neu PAM) ar wely’r môr i gasglu data acwstig dros wythnos yn dechrau 28ain mis Tachwedd 2022. Maen nhw wedi ei lleoli yn y cyfesurynnau isod: Bydd […]