Newyddion am weithgaredd o fewn Parth Arddangos Morlais

Gosod Dyfeisiadau Proffilio Cerrynt Acwstig Doppler ‘Acoustic Doppler Current Profiler’ (ADCP) ym Mharth Arddangos Morlais (y Parth)

Llwyddodd HydroWing, un o ddatblygwyr technoleg Morlais, i osod 2 ddyfais ADCP yn y Parth dros wythnos y 16fed o Ionawr 2023. Maent wedi’u lleoli yn y mannau canlynol:

  1. 53⁰682 N 004⁰ 42.561 W
  2. 53⁰333 N 004⁰ 42.634 W

 

Bydd y dyfeisiadau yn aros yn eu lle ar wely’r môr nes eu bod yn cael eu casglu, sydd fwyaf tebygol yn ffenestr tywydd/ llanw da o mis Chwefror/Mawrth 2023 ymlaen. Cyhoeddir hysbysiadau cyn unrhyw weithrediadau casglu.