Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992
Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006
Parth Arddangos Morlais
HYSBYSIAD CYFLWYNO GWYBODAETH AMGYLCHEDDOL YCHWANEGOL
01/04/2020
Ar Fedi 16eg 2019, cyflwynodd Menter Môn Cyf, Neuadd y Dref, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7LR gais i Lywodraeth Cymru o dan Adran 6 Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 am yr orchymyn a nodir uchod o dan adran 3 a 5 y Ddeddf honno.
Byddai’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi adeiladu a gweithredu dyfeisiau ynni llanw a’r isadeiledd cysylltiedig mewn parth arddangos yn y môr o’r enw Parth Arddangos Morlais (“MDZ”). Byddai’r parth yn 35 cilomedr sgwâr ac yn ymestyn o Fôr Iwerddon i orllewin Ynys Cybi, Ynys Môn. Hefyd, byddai’r Gorchymyn yn awdurdodi gosod ceblau allforio ar wely’r môr mewn coridor o geblau allforio. Bydd yr ardal hon yn ymestyn ar draws 4.75 cilomedr sgwâr rhwng yr MDZ a safle glanio ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi, ardal a elwir yn Borth y Pum Ogof.
Ynghyd â’r gwaith yn y môr, byddai’r Gorchymyn hwn hefyd yn awdurdodi gwaith ar y tir rhwng is-orsaf drydan arfaethedig ar lan y môr ac ar safle i’r Dwyrain o Gaergybi ger yr A55, er mwyn darparu cysylltiad grid â’r isadeiledd rhwydweithiau trydan presennol. Byddai’r Gorchymyn yn rhoi’r pŵer i drosglwyddo budd y Gorchymyn i unigolyn a phwerau arall i gyflawni gwaith ar strydoedd; i gau strydoedd dros dro; i greu neu wella mynedfeydd presennol; i greu cytundebau ag awdurdodau strydoedd; i ddefnyddio ffyrdd preifat er mwyn adeiladu’r gweithfeydd; i ollwng dŵr i ddyfrffosydd a charthffosydd neu ddraeniau cyhoeddus; i gynnal gwaith amddiffynnol ar adeiladau ac i arolygu ac ymchwilio tir.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn darparu arbediad ar gyfer Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, y pŵer i garthu, darpariaeth yn erbyn y perygl i fordwyo ac o ran lleihau gweithfeydd llanw a adawyd neu a ddinistriwyd, ar gyfer arolygu a goleuo gweithfeydd llanw ac yn ymwneud â diogelwch mordwyo. Mae cais ar wahân am drwydded forol ar gyfer gwaith ar y môr yn cael ei wneud i Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n destun ymarfer ymgynghori ar wahân.
Mewn cysylltiad â’r gweithfeydd ar y tir, bydd y Gorchymyn hwn yn ceisio ennill pwerau i sicrhau tir a’i ddefnyddio ar gyfer y gweithfeydd hynny ac at ddibenion ategol. Byddai’r Gorchymyn yn rhoi pwerau i gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir a gosod cyfamodau cyfyngu; i gaffael yr isbridd yn unig o dan y tir; i feddiannu isbridd neu ofod awyr strydoedd; i ddefnyddio tir dros dro at ddibenion adeiladu a chynnal y gweithfeydd; darpariaeth ar gyfer ymgorffori’r cod mwynau; i ddiystyru rhai buddion a gwelliannau tir; yr hawl i wrthgyfrif unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir ar gadw drwy asesu iawndal ac i ddiystyru, diddymu neu atal hawddfreintiau a hawliau eraill. Mae’r Gorchymyn hefyd yn darparu’r hawl i ymgeisio ac addasu deddfau prynu gorfodol a hefyd terfyn amser o bum mlynedd ar gyfer defnyddio pwerau Caffael Gorfodol a roddir gan yr Orchymyn.
Mae’r Gorchymyn yn rhoi’r hawl i anghymeradwyo adran 36 Deddf Trydan 1989 ac adran 23 Deddf Draenio Tir 1991; amddiffyniad sy’n ymwneud ag achosion sy’n ymwneud â niwsans statudol; pŵer i docio coed a symud gwrychoedd; diystyru cyfraith landlordiaid a thenantiaid; ei gwneud yn drosedd rhwystro adeiladu’r gweithfeydd; darparu parthau diogelwch ar gyfer llywio, treillio ac angori; darpariaethau ar gyfer amddiffyn ymgymerwyr statudol a buddion eraill; arbedion ar gyfer Trinity House a’r Goron; anghymeradwyo rhai darpariaethau Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017 gan gynnwys darpariaethau ategol.
Mae’r cais yn destun asesiad effaith amgylcheddol, ac mae gwybodaeth bellach nawr ar gael parthed y datganiad amgylcheddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais. Gweler rhestr o ba wybodaeth ychwanegol sydd ar gael yn atodlen 1 o’r hysbysiad hwn.
Gellir gweld copi o’r cais, ac o’r holl gynlluniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd gydag ef, yn rhad ac am ddim rhwng Ebrill y 1af 2020 a 13eg o Fai 2020 yn y lleoedd a’r adegau a nodir yn atodlen 2 i’r hysbysiad hwn.
Gellir cael copi o’r wybodaeth a, gost o 10c fesul taflen gan Menter Môn Morlais Cyf yn Neuadd y Dref Llangefni, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7LR neu drwy e-bostio info@morlaisenergy.com neu drwy ffonio 01248 725 722 for 10p.
Bydd copi o’r wybodaeth ar gael i’w weld ar y wefan www.morlaisenergy.com.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau, neu unrhyw sylwadau arall am y cynigion yn y cais at Arolygiaeth Gynllunio Cymru, naill ai drwy e-bost neu drwy’r post:
E-bost: TWA.Morlaistidalarray@planninginspectorate.gov.uk
Post:
Yr Arolygiaeth Gynllunio Adeiladau’r Goron Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ
Cyfeirnod: 3234121 – Deddf Trafnidiaeth a Gofal Stryd
Mae’n RHAID i unrhyw wrthwynebiad neu sylwadau eraill (i) gael eu derbyn gan Weinidogion Cymru ar neu cyn yr 13eg o Fai 2020, (ii) fod yn ysgrifenedig (naill ai drwy’r post neu drwy ebost), (iii) nodi sail y gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill, (iv) nodi pwy sy’n gwneud y gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill, a (v) rhoi cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth sy’n ymwneud â’r gwrthwynebiad neu’r sylwadau eraill ato. (Os byddwch yn anfon eich gwrthwynebiad neu sylwadau eraill trwy e-bost, nodwch y cyfeiriad post.)
Gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi copïau o’r gwrthwynebiadau a sylwadau eraill ar eu gwefan, ac eithrio unrhyw wybodaeth bersonol sydd ynddynt. Byddant hefyd yn eu rhannu copïau o’r gwrthwynebiadau a sylwadau eraill gydag ymgeisydd y Gorchymyn – gan gynnwys y manylion personol.
Eversheds Sutherland (International) LLP
Cyfreithwyr ac Asiantau Seneddol ar ran Menter Môn Cyf.
Dyddiad: 1af o Ebrill 2020
Atodlen 1
01 | Additional Environmental Information | MOR/RHDHV/DOC/0107 |
02 | ES Chapter 4 Project Description | MOR/RHDHV/DOC/0004 |
03 | ES Volume II Chapter 4 Figures | MOR/RHDHV/DOC/0108 |
04 | Welsh National Marine Plan Comparison Note | MOR/RHDHV/DOC/0128 |
05 | Traffic Clarification Note | MOR/RHDHV/DOC/0109 |
06 | HR Wallingford Coastal processes modelling report | MOR/HRW/DOC/0001 |
07 | Metocean and Physical Processes Numerical Modelling Supplementary Note | MOR/RHDHV/DOC/0112 |
08 | Metocean and Physical Processes ES Supplementary Note | Note MOR/RHDHV/DOC/0111 |
09 | Water Framework Directive Compliance Assessment | MOR/RHDHV/DOC/0126a |
10 | ES Volume II WFD Figures | MOR/RHDHV/DOC/0126b |
11 | Benthic and Intertidal Ecology Issues Responses to NRW comments | MOR/RHDHV/DOC/0113 |
12 | Fish Ecology Issues Responses to NRW comments | MOR/RHDHV/DOC/0114 |
13 | Marine Ornithology Collision Risk Modelling | MOR/RHDHV/DOC/0115 |
14 | Outline Environmental Mitigation and Monitoring Plan | MOR/AEC/DOC/0001 |
15 | Onshore Ornithology Response to Comments on Chough | MOR/RHDHV/DOC/0120 |
16 | Underwater Noise Modelling Report | MOR/RHDHV/DOC/0116 |
17 | Marine Mammals Underwater Noise Modelling Note | MOR/RHDHV/DOC/0117 |
18 | Marine Mammals Addition Collision Risk Modelling | MOR/RHDHV/DOC/0118 |
19 | Marine Mammals Monitoring and Mitigation Options | MOR/RHDHV/DOC/0119. |
20 | Navigation and Shipping Responses | MOR/RHDHV/DOC/0124 |
21 | Navigation Risk Assessment – Morlais Tidal Demonstration | 18UK1479-RN-MM-NRA-20_03 |
22 | Supplementary Tourism and Recreation Assessment | MOR/BAU/DOC/0001 |
23 | Supplementary Socio-economics Assessment | MOR/BAU/DOC/0002 |
24 | Outline Skills and Training Action Plan | MOR/MM/DOC/0008 |
25 | Outline Tourism and Recreation Monitoring Strategy | MOR/MM/DOC/0009 |
26 | Desk-Based Assessment – Terrestrial Archaeology and Walkover Survey
(1) Text (2) Figures (3) Plates |
MOR/WES/DOC/0001
|
27 | Onshore Archaeology Settings Assessment for Offshore Infrastructure | MOR/RHDHV/DOC/0125 |
28 | Onshore Archaeology Supplementary Note | MOR/RHDHV/DOC/0122 |
29 | Terrestrial Ecology Assessment Update | MOR/RHDHV/DOC/0110 |
30 | Seascape Landscape and Visual Impact Assessment response | MOR/SLR/DOC/0001 |
31 | Outline Landscape Management Plan | MOR/SLR/DOC/0002 |
Atodlen 2
Menter Môn,
Neuadd y Dref, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7LR |
Llun – Gwener rhwng 10:00yb a 16:00yp
Gwnewch apwyntiad 24 awr o flaen llaw drwy e-bostio info@morlaisenergy.com neu ffonio 01248 725722
**Tra bod dogfennau ar gael i’w archwilio yn Neuadd y dref, byddwn yn argymell ar hyn o bryd i ymweld â’r wefan www.morlaisenergy.com i’w darllen neu gysylltu gyda Menter M147n I wneud trefniadau arall. |