DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

PROSIECT ARDDANGOS LLIF LLANW MORLAIS, I’R GORLLEWIN O YNYS MÔN

Hysbysir drwy hyn fod Menter Môn Morlais Limited wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â’r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o’r cais a’r datganiad amgylcheddol ar 27 Tachwedd 2019 a 4 Rhagfyr 2019, ac wedi hynny cyhoeddwyd hysbysiadau cysylltiedig â’r cais ar 29 Gorffennaf 2020 a 5 Awst 2020

Mae Menter Môn Morlais Limited wedi cyflwyno cais i CNC am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ar gyfer prosiect arddangos llanwol i’r gorllewin o Ynys Môn. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae’n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Mae’r cais ar gyfer Prosiect Arddangos Llif Llanw a fydd yn darparu parth arddangos technoleg lanwol cytunedig, wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer gosod ac arddangos ar raddfa fasnachol sawl aráe o ddyfeisiau ynni llanw â chapasiti gosodedig o hyd at 240 MW. Mae’r ardal ddatblygu yn y môr lle gellir lleoli’r gosodiad arfaethedig yn cwmpasu ardal o 35km2 i’r gorllewin o Ynys Môn. Bydd y Prosiect yn cynnwys seilwaith cyffredin ar gyfer datblygwyr technoleg llanw ac yn darparu llwybr a fydd yn cael ei rannu at gysylltiad grid lleol drwy naw cynffon cebl allforio, is-orsaf glanfa ar y tir, a llwybr ceblau trydan ar y tir at gysylltiad drwy is-orsaf cysylltiad grid.

Gellir hefyd cael copïau o’r wybodaeth ychwanegol ynghyd â’r Datganiad Amgylcheddol a’r holl wybodaeth arall ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Gallwch chwilio am y ddogfennau gan ddefnyddio’r cyfeirnod cais ORML1938.

Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar y coronafeirws (COVID-19), ni fydd copi caled o’r cais a’r dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol wneud hynny’n ysgrifenedig i CNC yn y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP, neu drwy ein gwefan yn https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru  o fewn 42 o ddiwrnodau yn dilyn yr hysbysiad hwn. Mae’n rhaid cyflwyno’r sylwadau’n ysgrifenedig, wedi’u dyddio, gan nodi’r enw’n glir (mewn priflythrennau) ynghyd â chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy’n cyflwyno’r sylwadau.

Dyfynnwch y cyfeirnod ORML1938 ym mhob darn o ohebiaeth.

Eir i’r afael â sylwadau gan aelodau’r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan CNC eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant ar gael yn gyhoeddus hefyd.

Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd CNC yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect, rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.