Datblygwyr
Aquantis Inc. – www.aquantistech.com
Ffurfiwyd Aquantis, y mae ei bencadlys yn Santa Barbara, Califfornia, yn 2011 i ddatblygu a masnachu tyrbinau cerhyntau morol. Mae Aquantis wedi’i adeiladu ar dros dri degawd o waddol y sylfaenwyr yn datblygu ynni gwynt llwyddiannus a phrosiectau gweithgynhyrchu ac adeiladu pŵer ledled y byd. Erbyn hyn mae’r wybodaeth ddofn hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu cynhyrchu pŵer cerhyntau’r cefnfor, ynghyd â gwynt a solar er mwyn disodli tanwyddau carbon a chynorthwyo i leihau beichiau newid hinsawdd a diraddiad y bïosffer.
Big Moon Power LLC – www.bigmoonpower.com
Sefydlwyd Big Moon Power gan Gyn-lywydd ac Is-lywydd Gweithredol Xerox Services, Lynn Blodgett, yn 2015.
Mae Technoleg Big Moon dal mewn datblygiad.
Instream – www.instreamenergy.com
Mae Instream Energy Systems yn datblygu systemau pŵer hydrocinetig a phrosiectau cynhyrchu ynni llanw. Mae Instream yn gweithio gyda phartneriaid lleol, datblygwyr a rhanddeiliaid prosiectau i ddarparu tyrbinau ar gyfer prosiectau llanw a dyfrffyrdd mewndirol. Ers ei sefydlu yn 2008, mae Instream, ynghyd â’i bartner dylunio BAE Systems, wedi datblygu tyrbin echel fertigol tra effeithlon ac wedi arddangos ei ddichonolrwydd fel rhan o brosiectau yng Nghanada a’r UDA.
Inyanga Maritime Ltd – https://inyangamarine.com/
Inyanga Maritime sydd wedi gosod 100% o gapasiti ynni llanw Cymru hyd yma. Maen nhw am roi o’u harbenigedd a phrofiad i sicrhau llwyddiant masnachol tymor hir Morlais, ei ddatblygwyr a’r sector llanw, trwy ei waith yn y môr.
Ers gosod dyfais raddfa fawr gyntaf y sector ar gyfer MCT yn 2008, mae aelodau tîm Inyanga wedi arloesi yn y sector ynni llanw ac wedi gweithio mewn gyda’r mwyafrif o ddatblygwyr er mwyn dyfeisio, optimeiddio a gweithredu strategaethau cynnal a chadw a gosod sy’n fwy effeithiol, diogel a haws i’w rheoli.
Mae arweinyddiaeth y sector yma wedi galluogi i dîm Inyanga osod 60% o gapasati ynni llanw Ewrop hyd yma.
Magallanes Renovables SL – www.magallanesrenovables.com
Mae Magallanes Renovables yn gwmni o Sbaen a sefydlwyd yn annibynnol yn 2009 sydd â’r amcan o fanteisio ar ynni’r cefnfor fel adnodd newydd i’w gyflwyno i’r cyfuniad o ynni adnewyddadwy. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu, diwydiannu ac elwa ar dechnoleg sy’n gallu manteisio ar ynni o gerhyntau’r môr mewn modd effeithlon, dibynadwy a phroffidiol. Yn 2018, gwnaethant lansio eu platfform graddfa lawn 1.5MW cyntaf sydd wedi bod dan brawf ers hynny. Athroniaeth Magallanes yw manteisio ar gymaint o dechnoleg ddatblygedig ag sydd ar gael o ddiwydiannau aeddfed i leihau risg technoleg a chanolbwyntio ar yr heriau technegol sy’n unigryw i ynni llanw. Mae canlyniadau llwyddiannus yn profi bod Magallanes wedi datblygu system allbwn uchel, cadarn a chost effeithiol aflonyddgar, cyfuniad sy’n angenrheidiol i greu marchnad ynni adnewyddadwy newydd.
Nova Innovation Ltd. – www.novainnovation.com
Mae Nova Innovation, a sefydlwyd yn 2010, yn gwmni ynni llanw blaenllaw sydd â’i bencadlys yng Nghaeredin a safle yng Nghaernarfon ers 2018.
Yn 2016, gosododd Nova gyfres llanw alltraeth gyntaf y byd – tri thyrbin wedi’u lleoli yn yr Ynysoedd Shetland, yr Alban. Mae ein tyrbinau wedi bod yn cynhyrchu trydan glân ac yn allforio i’r grid ers dros bedair blynedd. Yn 2018, gweithiodd Nova gyda Tesla i gyfuno storio ynni â’i dechnoleg llanw, gan greu gorsaf bŵer llanw llwyth sylfaenol cysylltiedig â’r grid cyntaf erioed, ac yn 2020 ychwanegodd ei dyrbin llanw gyriant uniongyrchol masnachol at y gyfres, gan gynrychioli camau i leihau cost ynni’r llanw.
Mae Nova Innovation yn frwd dros amgylchedd glanach i genedlaethau heddiw ac yfory ac mae Nova yn ymroddedig i ymgysylltu â chadwyni cyflenwi lleol, a’u defnyddio.
Nod Nova Innovation yw bod yn gwmni technoleg ynni’r llanw blaenllaw y byd. Gan dynnu ar wersi blaenorol o’r sector pŵer gwynt, rydym yn credu’n gryf mai’r ffordd o gyflawni hyn yw arddangos dyfeisiau masnachol ar raddfa gweddol fechan (is-megawat), ac yna ehangu o ran maint wrth i’r dechnoleg gael ei phrofi: dechrau’n fach, meddwl yn fawr, symud yn gyflym.
Orbital Marine Power Ltd. – www.orbitalmarine.com
Mae Orbital Marine Power sydd wedi’i leoli yn yr Alban wedi sefydlu ei hun fel arweinydd peirianneg ffrwd llanw arloesol, ar ôl arloesi datrysiad tyrbin arnofio unigryw wedi dros bymtheg mlynedd o waith ymchwil dwys, datblygiad a phrofi modelau wrth raddfa. Wedi’u cydnabod am ddatblygu’r dechnoleg i drawsffurfio dyfodol ynni llanw ar raddfa fyd-eang, gall technoleg briodol Orbital gynhyrchu gostyngiad yng nghost ynni cerhyntau’r llanw.
Yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd mae tyrbin llanw O2 Orbital, a fydd yn dyrbin llanw mwyaf pwerus y byd, a bydd yn cael ei osod yn safle profi llanw Fall of Warness EMEC yn Ynysoedd Erch yn 2021. Mae gwelliannau yn nyluniad platfform Orbital wedi caniatáu cynnydd o 4m yn niamedr rotor, sy’n gynnydd ar dyrbin SR2000 2MW blaenorol y cwmni a dorrodd dir newydd, gyda’r O2 yn gallu cynhyrchu trydan ar gyfer dros 1,700 o dai y DU.
QED Naval Limited – https://qednaval.co.uk/
Sefydlwyd QED Naval yn 2008 ar ôl dros ddegawd o weithio o fewn yr ymchwil amddiffyn llyngesol gan ddatblygu technolegau llechwraidd o’r radd flaenaf, SMART. Helpodd hyn i ffurfio hanfodion datblygu cynnyrch gan ddefnyddio CADMID, (Cysyniad, Asesu, Dylunio Manwl, Gweithgynhyrchu, Mewn Swydd a Datgomisiynu) lle mae pob cam o fywyd y cynnyrch yn cael ei ystyried yn ofalus.
Cynrychiolir timau dylunio bach ar y bwrdd sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu maes eu hunain ac yn gymwys i wneud penderfyniadau gwybodus ac ystyried yr effaith yn gyflym. Mae hyn yn caniatáu i syniadau ddatblygu’n gyflym a chyrraedd pwynt dylunio yn gyflymach.
Wedi’i lywio gan dîm rheoli profiadol sydd â hanes o gyflwyno technoleg o arwyddocâd byd-eang.
SABELLA SA – www.sabella.bzh
Wedi’i sefydlu yn 2008, mae SABELLA yn gwmni o Ffrainc sy’n datblygu technoleg ffrwd llanw arloesol. Gyda dwy ddyfais wedi’u profi yn y maes, gan gynnwys y tyrbin llanw Ffrengig cysylltiedig â’r grid cyntaf yn 2015, a dwy gyfres llanw beilot yn cael eu datblygu, mae’r cwmni ar flaen datblygiad ynni llanw yn Ffrainc ac Ewrop. Gyda’i ystod o dechnolegau cadarn a dibynadwy unigryw, mae SABELLA yn hyrwyddo model ynni newydd sydd wedi’i deilwra ar gyfer gridiau anghysbell a chymunedau ar lannau arunig. Yn seiliedig ar adnodd glân, rhagweladwy a dibynadwy, mae technoleg SABELLA yn cynnig dewis arall cynaliadwy ac economaidd i systemau cynhyrchu pŵer ar sail tanwydd sy’n ddrud ac yn llygru.
Verdant Isles Ltd. – www.verdantpower.com
Wedi’i sefydlu yn 2000, cenhadaeth Verdant Power yw cynorthwyo i ddatblygu cymunedau cynaliadwy drwy ddull holistig sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu ynni glân yn ogystal â datblygu partneriaethau a llwyfannau hybrid i gael effeithiau sylweddol ar y cysylltiad dŵr-ynni.
Mae Verdant Power yn datblygu technolegau a phrosiectau sy’n cynhyrchu pŵer ar raddfa pentrefi a chyfleustodau o ynni cerhyntau ffrydiau rhydd sydd i’w gael mewn llanwau, afonydd a chamlesi, y cyfeirir ato fel ynni adnewyddadwy neu “mewnffrwd”.
Mae Verdant Power, y mae ei bencadlys yn Efrog Newydd, EN, yn gwmni byd-eang gydag is-gwmnïau yng Nghanada a’r DU. Yn 2014, gweithiodd Verdant mewn partneriaeth â chontractwr o Iwerddon, Belleville Duggan Renewables, i ffurfio Verdant Isles Ltd., sy’n canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau yng Nghymru ac Iwerddon.
Partneriaid
Rydym wedi gweithio gydag ystod o arbenigwyr ar draws sawl sector i baratoi ein cais caniatâd. Yn eu plith mae:
Ateb – www.atebcymru.wales
Mae Ateb yn arbenigo mewn cyfathrebu dwyieithog ac ymgynghori cymunedol. Mae’r cwmni hefyd yn darparu cymorth a chyngor ar faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, gan gynnwys cydymffurfiaeth â safonau’r iaith, datblygu cynlluniau iaith a hyfforddiant i staff. Wedi eu lleoli ar Ynys Môn, mae Ateb yn gweithio gyda sefydliadau a busnesau ledled Cymru a thu hwnt.
Black & Veatch – www.bv.com
Ers dros ganrif, peirianneg a dylunio yw ein cymwyseddau craidd. Mae hyn yn trosi i adolygu adeiladwaith, dibynadwyedd ac ansawdd gwell ym mhob prosiect.
Mae ein harbenigwyr yn tynnu ar brofiad ac adnoddau byd-eang i gyflawni’r datrysiadau cywir i’n cleientiaid.
Eversheds Sutherland – www.eversheds-sutherland.com
Fel un o’r 15 practis cyfreithiol gorau yn y byd, mae Eversheds Sutherland yn darparu cyngor cyfreithiol a datrysiadau i sylfaen gleientiaid fyd-eang, yn amrywio o fusnesau bach a chanolig i’r cwmnïau amlwladol mwyaf.
Mae ein timau o gyfreithwyr ledled y byd yn gweithio’n ddi-dor i ddarparu’r ddealltwriaeth gyfreithiol ac aliniad strategol sydd eu hangen ar gleientiaid gan eu hymgynghorwyr i ddatblygu eu buddiannau busnes ymhellach. Mae cleientiaid yn ein disgrifio ni’n greadigol ac yn hen gyfarwydd â gwaith cyfreithiol o’r radd flaenaf – rydym yn gwrando’n astud er mwyn deall sut a lle gallwn fod yn fwyaf effeithiol ac ychwanegu’r gwerth uchaf.
Royal Haskoning DHV – www.royalhaskoningdhv.com
Rydym yn ymgynghoriaeth beirianneg a rheoli prosiectau annibynnol, ryngwladol yn arwain y ffordd o ran datblygiad ac arloesedd cynaliadwy.
Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni gwerth ychwanegol i’n cleientiaid ac, ar yr un pryd, rydym yn mynd i’r afael â’r heriau mae cymdeithasau yn eu hwynebu, Yn eu plith mae poblogaeth gynyddol y byd a’r goblygiadau i drefi a dinasoedd; y galw am ddŵr yfed glân, sicrwydd dŵr a diogelwch dŵr; pwysau ar draffig a thrafnidiaeth; argaeledd adnoddau a galw am ynni a materion gwastraff sy’n wynebu’r diwydiant.”
The Systems Partnership – www.safesetters.com
“Rydym yn arbenigo mewn hyfforddi gwelliant mewn perfformiad diogelwch a datblygu diwylliant sy’n canolbwyntio ar risgiau a gwobrau. Mae nifer o’n cwsmeriaid, sy’n aml yn gweithio mewn diwydiannau risg uchel, yn dod atom oherwydd, er eu bod wedi lleihau’n sylweddol y nifer o ddamweiniau ac achosion sy’n digwydd, nid ydynt yn cyflawni dim niwed yn gyson. Mae ein gwaith yn adlewyrchu ein cred bod gwella perfformiad diogelwch go iawn yn gydbwysedd o systemau a phobl.