09/05/2022
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Grŵp Cyswllt Cymunedol Morlais ar y 9fed o Fai yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Daeth tua 30 o bobl o wahanol grwpiau cymunedol a diddordebau i’r cyfarfod. Clive McGregor, cyn Arweinydd y Cyngor oedd yn cadeirio gyda Gerallt Llewelyn Jones a Karen Jones y ddau yn gyfarwyddwyr gyda Morlais yn rhoi trosolwg o’r prosiect hyd yn hyn. Rhoddodd Dafydd Gruffydd gyflwyniad i Menter Môn, sy’n gyfrifol am y prosiect.
Mae’r Grŵp yn gyfle i aelodau glywed y diweddaraf am Morlais ac i ofyn cwestiynau i’r panel ar wahanol faterion.
Y prif bynciau dan sylw yn y cyfarfod cyntaf hwn oedd swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a mordwyo yn ogystal â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau ar y tir.
Mae cyfarfod nesaf am gael ei drefnu ym mis Awst neu Fedi.
2022_05_09 Cyfarfod CLG (Cym) FINAL V1.0
26/09/2022
Cynhaliwyd ail gyfarfod Grŵp Cyswllt Cymunedol Morlais yng Ngwesty Bae Trearddur ar y 26ain o Fedi. Mynychodd tua 15 o bobl o wahanol grwpiau cymunedol a diddordebau. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gyn Arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, gyda chyfraniadau gan Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr prosiect Morlais ac Oliver Wilson, rheolwr y prosiect, yn rhoi trosolwg o’r prosiect hyd yn hyn.
Mae’r Grŵp yn gyfle i aelodau glywed y diweddaraf am Morlais ac i ofyn cwestiynau i’r panel ar faterion sy’n peri pryder.
Y materion dan sylw yn y cyfarfod cyntaf hwn oedd swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a manylion y gwaith adeiladu presennol.
Disgwylir i’r cyfarfod nesaf gael ei gynnal cyn y Nadolig.
2022_09_26 Cyfarfod CLG (Cym) FINAL V1.0
06/12/2022
Cynhaliwyd trydydd cyfarfod Grŵp Cyswllt Cymunedol Morlais yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi ar y 6ed o Ragfyr. Mynychodd tua 12 o bobl o wahanol grwpiau cymunedol a diddordebau. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gyn Arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, gyda chyfraniadau gan Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr prosiect Morlais ac Oliver Wilson, rheolwr y prosiect, yn rhoi trosolwg o’r prosiect hyd yn hyn.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2023.
2022_12_06 Cyfarfod CLG (Cym) FINAL V1.0
07/03/2023
Cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Cyswllt Cymunedol Morlais yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi ar y 7fed o Fawrth. Mynychwyd y cyfarfod gan bobl o wahanol grwpiau cymunedol a diddordebau. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gyn Arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, gyda chyfraniadau gan Andy Billcliff, Prif Weithredwr prosiect Morlais ac Oliver Wilson, rheolwr y prosiect, yn rhoi trosolwg o’r prosiect hyd yn hyn.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2023.
2023_03_07 CLG Cofnodion Cyfarfod FINAL V1.0 CYM
06/06/2023
Cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Cyswllt Cymunedol Morlais yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi ar y 7fed o Fawrth. Mynychwyd y cyfarfod gan bobl o wahanol grwpiau cymunedol a diddordebau. Cadeiriwyd y cyfarfod gan gyn Arweinydd y Cyngor, Clive McGregor, gyda chyfraniadau gan Andy Billcliff, Prif Weithredwr prosiect Morlais ac Oliver Wilson, rheolwr y prosiect, yn rhoi trosolwg o’r prosiect hyd yn hyn.
2023_06_06 CLG Cofnodion Cyfarfod FINAL V1.0 CYM
05/09/2023