Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Grŵp Cyswllt Cymunedol Morlais ar y 9fed o Fai yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi. Daeth tua 30 o bobl o wahanol grwpiau cymunedol a diddordebau i’r cyfarfod. Clive McGregor, cyn Arweinydd y Cyngor oedd yn cadeirio gyda Gerallt Llewelyn Jones a Karen Jones y ddau yn gyfarwyddwyr gyda Morlais yn rhoi trosolwg o’r prosiect hyd yn hyn. Rhoddodd Dafydd Gruffydd gyflwyniad i Menter Môn, sy’n gyfrifol am y prosiect.
Mae’r Grŵp yn gyfle i aelodau glywed y diweddaraf am Morlais ac i ofyn cwestiynau i’r panel ar wahanol faterion.
Y prif bynciau dan sylw yn y cyfarfod cyntaf hwn oedd swyddi lleol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi a mordwyo yn ogystal â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau ar y tir.
Mae cyfarfod nesaf am gael ei drefnu ym mis Awst neu Fedi.