Bydd Dydd Gwener yma yn ddiwrnod prysur o amgylch safle adeiladu is-orsaf Morlais wrthi i’r gwaith o ail-wynebu’r ffordd gychwyn ger y safle a chyffordd Ffordd Ynys Lawd a thu hwnt i hynny. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau am 7:30 yn y bore a’r gobaith yw y bydd wedi ei gwblhau mewn diwrnod.
Bydd y gwaith yn effeithio ar ddau eiddo, ond bydd mynediad yn parhau i fod ar gael i drigolion yr ardal drwy gydol y dydd.
Mae disgwyl i’r system reoli traffig yn yr ardal ddod i ben am y tro ar y 21ain o Ragfyr.
Cysylltwch gyda ni ar info@morlaisenergy.com gydag unrhyw ymholiad.