Diweddariad Tachwedd 23ain 2022;
- Dechreuodd Adran 1 (dim angen ei chau) fel y cynlluniwyd ym mis Tachwedd a bydd yn parhau i gael ei reoli gyda threfniant goleuadau traffig. Mae’r rhan hon wedi’i gohirio oherwydd delio â chwlfer a rhywfaint o dir gwlyb a disgwylir iddo orffen yn awr ychydig cyn Nadolig 2022.
- Mae cau Heol Ynys Lawd yn parhau yn rhan 2 er mwyn caniatáu gosod y pibellau yno. Bydd y cau hwn tan Nadolig 2022 sydd hefyd yn cynnwys gosod y cebl rhwng JP1 a JP3. Bydd mynediad i drigolion a busnesau lleol yn cael ei gynnal.
- Bydd y ceblau ar gyfer gweddill Heol Ynys Lawd yn cael eu gosod a’u cysylltu â’i gilydd yn y pyllau uniad a ddangosir mewn dotiau glas ar y llun trwy gydol hanner cyntaf 2023 dan reolaeth goleuadau traffig i ganiatáu traffig drwodd. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
- Yn anffodus, bydd angen cau’r ffordd yn llawn ar Heol Porth Dafarch yn ystod Chwefror a Mawrth 2023, oherwydd sefyllfa’r isadeiledd presennol sy’n golygu bod rhaid adeiladu yng nghanol y ffordd.
- Rydym yn parhau i ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra yn ystod y gwaith.