Cynigion ar gyfer y lan
Ar y lan bydd:
1. Is-orsaf
- Bydd yr is-orsaf yn agos i’r man y bydd y ceblau’n cyrraedd y lan, i’r de o Ynys Lawd.
- Bydd yr is-orsaf yn mesur tua 50m x 70m a bydd ffens neu wal yn ei hamgylchynu.
2. Ceblau a llwybr y ceblau
- Bydd hyd at 9 cebl allgudo yn trosglwyddo trydan o’r dyfeisiadau llif llanw yn y môr i’r tir.
- Drilio llorweddol (HDD) yw’r dull sy’n cael ei ffafrio ar gyfer dod a’r ceblau i’r lan – byddai hyn yn golygu drilio o dan yr arfordir ger yr is-orsaf.
- Yna bydd cebl yn cael ei osod o dan y ffordd a bydd yn rhedeg o’r is-orsaf ar y lan ac yn cysylltu â’r grid ger Caergybi.
3. Is-orsaf Grid
- Bydd is-orsaf arall yn cael ei hadeiladu ar gyfer yr offer i gysylltu Morlais â’r Grid Cenedlaethol.
- Bydd Morlais yn cysylltu â’r Grid Cenedlaethol yng Nghaergybi.
- Bydd yr is-orsaf grid yn mesur tua 100m x 100m a bydd ffens yn ei hamgylchynu.
Cynigion ar gyfer y môr
Mae’r cynllun wedi sicrhau caniatâd i osod isadeiledd yn y môr er mwyn galluogi i ddatblygwr technoleg ynni llanw brofi eu dyfeisiadau yn y parth.
Bydd y datblygwyr yn dod yn denantiaid i Morlais, gan dalu am yr hawl i ddefnyddio’r safle a’r isadeiledd.
Mae nifer o ddatblygwyr technoleg o bob cwr o’r byd eisoes wedi cytuno i weithio gyda ni ar Morlais a phrofi eu technoleg ar y safle.
Bydd yr offer yn y môr sy’n cael ei reoli ac yn eiddo i Morlais yn cynnwys:
- Hyd at 9 cebl tanddwr i drosglwyddo trydan o’r dyfeisiadau llif llanw i’r is-orsaf ar y lan
Bydd isadeiledd y datblygwr/ tenant yn cynnwys:
- Dyfeisiadau llif llanw wedi eu cysylltu gyda’i gilydd i greu grŵp
- Sylfeini ac angorau ar wely’r môr i ddal y dyfeisiadau yn eu lle
- Hybiau neu flychau i alluogi nifer o ddyfeisiadau i gael eu cysylltu gyda’i gilydd mewn grŵp
- Ceblau tanddwr i gysylltu’r dyfeisiadau gyda’i gilydd