Nod Menter Môn i wrth weithredu fel rheolwr trydydd parti ar gyfer Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn, sef Morlais yw sicrhau’r budd mwyaf posib i economi Ynys Môn ac ardal ehangach gogledd Cymru. Bydd y prosiect yn cynnwys datblygu’r parth i hwyluso datblygu technoleg ynni llanw yn ogystal â chynnal anghenion y datblygwyr eu hunain unwaith y byddant wedi eu lleoli ar Ynys Môn. Bydd y ddwy elfen yn defnyddio ystod eang o wasanaethau a sgiliau yn lleol pan fo hynny yn bosib. Mae rhai enghreifftiau o’r rhain isod:
- Caniatáu a chytuno
- Llogi cychod
- Monitro amgylcheddol a geo-dechnegol
- Ymgynghoriaeth gweithrediadau môr
- Saernïo a gwaith gosod terfynol
- Gorsaf pod danforol
- Gosod ceblau
- Gosod systemau telegyfathrebu i’r orsaf ar y lan
- Gweithredu a chynnal
- Cyfleusterau porthladd
- Swyddfeydd
- Llety
- Hyfforddiant
Mae Menter Môn wedi darparu gwasanaethau cymorth i fusnesau ers bron i 20 mlynedd ac felly’n gymwys iawn i adnabod a datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer Morlais. Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at y nod ehangach o ddatblygu’r Ynys yn ganolfan sy’n arbeningo mewn ynni adnewyddadwy gan greu cyfleoedd ar gyfer swyddi o safon uchel. Byddwn yn gweithio’n agos gydag Ynys Ynni a Chyngor Sir Ynys Môn i gyflawni hyn.
Mae cyfleoedd i ddatblygu ac amrywio’r gadwyn gyflenwi leol.
Os hoffech derbyn gwybodaeth am gyfleoedd a diwgyddiadau yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi – plis tanysgrifiwch i’n rhestr bostio isod.