Y llwyfan yn barod – 2021 yn allweddol i Morlais

Gyda’r flwyddyn newydd daw cyfleodd a heriau newydd i brosiect ynni llanw Morlais, sy’n cael ei redeg gan Menter Môn er budd yr ynys.

Fe welodd diwedd 2020 cerrig milltir pwysig i’r prosiect, gyda chychwyn ymchwiliad cyhoeddus, a’r cyhoeddiad y gall Morlais fod yn un o’r prosiectau cyntaf i elwa o fuddsoddiad Bargen Twf Gogledd Cymru.

Heb os bydd y 12 mis nesa yn dyngedfennol. Unwaith fydd yr ymchwiliad wedi dod i ben fis nesa, mae’n debygol y bydd penderfyniad gan Weinidogion Cymru am y cynllun yn ystod yr haf. Os daw’r caniatâd angenrheidiol gall adeiladu gychwyn, fesul cam, cyn daw’r llen i lawr ar y flwyddyn.

Fodd bynnag, mae’r tîm yn ymwybodol iawn bod llawer o waith ar ôl i’w gyflawni – yn awyddus i beidio aros yn eu hunfan maen nhw’n barod i groesawu’r heriau ddaw yn sgil 2021.

Mae Gerallt Llewelyn Jones yn un o gyfarwyddwyr Morlais: “Rydym wedi dod yn bell ac wedi dysgu llawer ers i ni sicrhau lês Stad y Goron am y parth arddangos nol yn 2014. Ond, rydym yn sylweddoli hefyd nad ydym wedi cyrraedd pen y daith eto –rydan ni’n barod felly am y bennod nesaf, er mwyn sicrhau bod Morlais yn dod yn realiti. Roedd y newyddion y gallai ni dderbyn £9 miliwn o’r Fargen Twf yn hwb enfawr i’n hymdrechion i ariannu’r cynllun – gall hefyd olygu rhyddhau £26m pellach gan Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru.

“Tra’n edrych i’r dyfodol, rydan ni parhau’n driw i’r weledigaeth sydd wedi bod yn gyrru Morlais ers y cychwyn cyntaf – sef i sicrhau budd lleol. Dyma’r elfen bwysicaf o Morlais a’r rheswm wnaeth Menter Môn gymryd y cam i mewn i’r sector ynni morol yn y lle cyntaf. Mae gan y cynllun y potensial i greu o leiaf 100 o swyddi lleol yn y 10  mlynedd gyntaf, gyda llawer iawn mwy na hynny yn y gadwyn gyflenwi. Mae’r ardal wedi cael ei tharo yn galed dros y blynyddoedd gydag ymadawiad nifer o gyflogwyr mawr, dadgomisiynu gorsaf bŵer niwclear a chynlluniau ar gyfer Wylfa newydd yn wynebu rhwystrau cynyddol. Mae Morlais yn cynnig cyfleoedd go iawn o ran swyddi, buddsoddiad a hyfforddiant.

“Mae’r byd yn le gwahanol iawn heddiw o gymharu â phan gychwynnodd y prosiect. Hyd yn oed yr adeg yma’r llynedd pwy fyddai wedi gallu rhagweld y byddwn ni gyd yn gweithio o’r cartref, yn mynychu cynadleddau rhithiol, a hyd yn oed yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad cyhoeddus cyntaf i gael ei gynnal ar-lein. Mae’r pandemig wedi effeithio arnom i gyd mewn ffyrdd gwahanol. Heb os mae wedi’n gorfodi ni i edrych ar ein impact ar y blaned a sut y gallwn gymryd camau tuag at adferiad ‘gwyrdd’. A dyma’r amser i hyrwyddo’r agenda yma. Rydan ni gyd yn gwybod mai dyma’r peth iawn i wneud i daclo newid hinsawdd ac i greu dyfodol gwell i’r genhedlaeth nesaf.

“Mae Morlais, fel rhan o sector sy’n tyfu, yn barod i chwarae rhan – gyda llywodraeth Cymru a San Steffan yn ei gwneud hi’n glir bod lleihau carbon yn flaenoriaeth uchel. Dydi’r sgwrs am newid hinsawdd ddim yn newydd ond mae cynnydd wedi bod yn araf iawn. Rydyn ni, ein datblygwyr, prosiectau tebyg ar draws y DU a thu hwnt mewn lle da i weithredu er mwyn gwneud y gwahaniaeth sydd ei angen.”

Gydag ychydig o wythnosau ar ôl o’r ymchwiliad cyhoeddus, mae llawer o waith yn mynd ymlaen y tu ôl i’r llen ar elfennau ymarferol y cynllun. Mae gwahoddiadau i dendro wedi eu cyhoeddi ar gyfer cytundebau peirianneg sifil a drilio llorweddol ac mae gwaith o ymgysylltu a chyfathrebu gyda rhan ddeiliad yn parhau.

Heb os mae’r 12 mis nesaf yn rhai pwysig iawn i Morlais – gyda phenderfyniadau allweddol ar y gorwel. Mewn blwyddyn, wrth i ni groesawu 2022 y gobaith yw y bydd gwaith cychwynnol ar y lan wedi cychwyn, a chyda hynny dechrau taith newydd fydd yn gweld Ynys Môn a gogledd Cymru yn elwa o’r budd ddaw o ynni llif llanw.

 

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer caniatâd a datblygu gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Sir Ynys Môn.