Datblygwyr ynni llanw yn ymweld â safle Morlais

Mae cynllun ynni llanw Morlais yn croesawu Magallanes, datblygwr tyrbinau o Sbaen i’r safle’r wythnos hon.

Dyma fydd eu hymweliad cyntaf ers i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y cynllun ym Môn, ac ers i Magallanes eu hunain sicrhau un o’r Contractau Gwahaniaeth (CfD) fel rhan o arwerthiant ynni adnewyddadwy diweddaraf Llywodraeth y DU. Yn ystod eu hymweliad bydd cynrychiolwyr y cwmni yn cael cyfle i gwrdd â’r tîm adeiladu ar safle’r is-orsaf ger Ynys Lawd, yn ogystal â gweld y safle angori posib ar gyfer dyfeisiadau Magallanes.

Dywedodd Andy Billcliff Prif Weithredwr Morlais: “Rydym yn falch iawn o  groesawu Alejandro Marques a’r tîm i Ynys Môn yr wythnos hon i ddangos y cynnydd ar ein safle. Mae gymaint wedi digwydd ers eu taith ddiwethaf, gan gynnwys sicrhau caniatâd i Morlais gan Lywodraeth Cymru a’r drwydded forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae’r model ar gyfer Morlais yn unigryw – cwmni lleol, sef Menter Môn sy’n berchen ar y cynllun ac yn rhedeg y prosiect, a byddwn yn gweithio gyda datblygwyr tyrbinau rhyngwladol i gynhyrchu trydan carbon isel. Mae’r adnodd llanw yma ymysg y cryfaf yn y byd, sy’n golygu, trwy weithio mewn partneriaeth â busnesau fel Magallanes, y gallwn roi Ynys Môn ar y map o ran ynni llanw.”

Dyma fydd y cynllun masnachol cyntaf i Magallanes fod yn rhan ohono, ac maen nhw fel Menter Môn yn ymrwymo i greu swyddi a chyfleoedd hirdymor yng ngogledd orllewin Cymru. Gyda’r CfD yn sicrhau pris am eu trydan, bydd y cwmni yn gallu cynhyrchu 6MW o ynni adnewyddadwy glân fel rhan o Morlais.

Ers i Menter Môn ennill prydles Ystâd y Goron i reoli’r parth yn 2014 – mae sicrhau swyddi a hybu’r economi yn lleol wedi bod yn rhan allweddol o’r cynllun. Mae Magallanes eisoes mewn trafodaethau gyda busnesau lleol ac wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint â phosibl o’u gwariant nhw hefyd yn aros yn lleol.

Morlais yw’r datblygiad ynni llanw mwyaf o’i fath yn y DU sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol. Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau bydd trydan glân yn cael ei gynhyrchu oddi ar arfordir Ynys Môn, gyda’r potensial dros amser i gynhyrchu hyd at 240MW.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.