Beth yw Ynni Llif Llanw?
Llanw yw’r hyn sy’n digwydd wrth i rymoedd disgyrchiant yr haul a’r lleuad symud ein moroedd o gwmpas y ddaear. Dyma’r symudiad sy’n cael ei defnyddio i greu trydan.
Mewn ambell i le penodol, mae lleoliad darn o dir ynghyd â ffurf gwely’r môr yn achosi i’r môr symud mwy na’r arfer gan greu ynni llanw hyd yn oed mwy grymus. Mae arfordir gorllewinol Môn ac Ynys Cybi’n un o’r llefydd hyn, gyda cherynt o hyd at 3.7 m/s neu 7 not.
Mae ynni sy’n cael ei gynhyrchu o lif y llanw yn adnewyddadwy, carbon isel, glân ac yn ddibynadwy.
Sut mae trosi ynni llif llanw i drydan?
Mae gan ddyfeisiadau ynni llif llanw dair rhan:
- Rhan sy’n defnyddio symudiad y dŵr i droi generadur yn araf i gynhyrchu trydan
- Math o strwythur i gadw’r ddyfais yn y dŵr
- Sylfaen neu angor sy’n dal y peiriant cyfan yn ei le
Mae rhannau sy’n symud neu’n cynhyrchu trydan yn aros o dan y dŵr.
Sut mae peiriannau ynni llanw’n edrych?
Mae sawl math gwahanol o beiriannau ynni llanw – mae rhai yn cael eu gosod yn gyfan gwbl o dan wyneb y dwr ond gellir gweld rhannau o fathau eraill uwchben wyneb y môr tra bod eraill yn cael eu hangori yng nghanol y dwr. Enghreifftiau yn unig yw’r delweddau isod o’r math o dechnoleg all gael ei leoli ym mharth Morlais.