Interniaeth Dyfodol Morol Amy
Cartref > Addysg > Astudiaethau Achos > Interniaeth Dyfodol Morol Amy
Interniaeth Dyfodol Morol - Amy
Mae Amy o Borthmadog, ond bellach yn byw yn Pencaenewydd, yn un o interniaid Dyfodol Morol, sef cynllun sy’n datblygu sgiliau arbenigol ym meysydd cadwraeth forol, ynni adnewyddadwy, polisi morol ac ymgysylltu cymunedol. Mae’r interniaeth yn cael ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, gyda phartneriaid yn cynnwys Menter Môn Morlais, Ystâd y Goron, M-SParc a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Beth wnaeth dy ddenu at yr interniaeth a'r maes yn gyffredinol?
Yn 2020, roeddwn i'n gwneud tymor dramor yn Chamonix yn y maes lletygarwch – ond pan ddigwyddodd Covid, mi wnes i, yn amlwg orfod dod adra. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw, nes i rili syrthio mewn cariad efo gogledd Cymru unwaith eto. Dw i wastad wedi caru'r môr, ond ‘on i ddim yn meddwl bod fi'n gallu ei astudio. Pan ‘on i'n cerdded ar hyd yr arfordir yn agos at adra un diwrnod, mi wnes i feddwl bod fi isho gwneud rhywbeth i edrych ar ei ôl. Felly es i astudio Bioleg Forol ac Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor, a phan nes i weld y cyfle am yr interniaeth yma, roeddo'n gwneud synnwyr llwyr i fynd amdani. Roeddwn i'n awyddus i gael profiad ymarferol yn y maes a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector.
Beth yw diwrnod arferol i intern yma?
Does dim dau ddiwrnod yr un fath! Dwi'n treulio hanner fy amser allan yn y maes a'r hanner arall yn y swyddfa. Rhai diwrnodau dwi ar y traeth yn casglu hadau morwellt neu'n chwilio am rywogaethau arbennig, ac ar ddiwrnodau eraill dwi'n ymchwilio, yn casglu gwybodaeth ac yn cefnogi prosiectau gwahanol. Mae'n waith amrywiol iawn, ac mae hynny'n un o'r pethau dw i'n ei fwynhau fwyaf.
Beth yw'r peth mwyaf gwerthfawr rwyt ti wedi'i ddysgu hyd yma?
Pwysigrwydd cydweithio, yn bendant, . Mae pawb yn dod â sgiliau a phrofiadau gwahanol i'r tîm, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Dw i wedi dysgu cymaint drwy weithio gyda phobl o gefndiroedd gwahanol a gweld sut mae pawb yn cyfrannu gyda’i gilydd. Mae pob profiad newydd yn helpu, ac mae cael gweithio ochr yn ochr â phobl sydd â chymaint o wybodaeth a dealltwriaeth o'r sector yn werthfawr iawn.
Pam mae gallu gweithio yn Gymraeg yn bwysig i ti?
Mae'n bwysig iawn i mi gael gweithio drwy’r Gymraeg. Dwi mor falch bod fi'n gallu defnyddio'r iaith bob dydd wrth wneud gwaith sy'n helpu i ofalu am arfordiroedd gogledd Cymru. Mae hynny'n rhywbeth sy'n golygu lot i mi.
Beth wyt ti'n gobeithio ei wneud ar ôl yr interniaeth?
Dwi eisiau parhau i ddysgu a chael cymaint o brofiad â phosib. Yn y pen draw, mi fyswn i'n hoffi cael swydd amser llawn yn y sector a pharhau i weithio ar brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n moroedd a'r natur o'n cwmpas.
Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried bod yn intern?
Cer amdani! 100% Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n cael y cyfle yma, ond mae rhywun angen y profiad – felly pam ddim? Mae pawb yma mor gefnogol ac yn barod i helpu. Mae'n gyfle anhygoel i ddysgu, datblygu dy sgiliau a gweithio gyda phobl wych sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.
