Cwestiynau Cyffredinol
1. Beth yw Morlais a ble mae’r cynllun?
Prosiect ynni llif llanw oddi ar arfordir gogledd orllewin Ynys Cybi, Ynys Môn, yw Morlais. Mae’n anelu i sicrhau budd i gymunedau lleol, yr economi a’r hinsawdd drwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy carbon isel gan ddefnyddio ynni llanw.
Dyma’r safle ynni llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi cael caniatâd ac mae’n eiddo i, ac yn cael ei reoli gan Menter Môn Morlais Ltd, is-gwmni menter gymdeithasol Menter Môn.
Unwaith y bydd yn weithredol, mae gan y safle y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan – digon ar gyfer o gwmpas 180,000 aelwyd. Mae’n cael ei ystyried fel model unigryw o fewn y sector llanw gan y bydd yn darparu model risg is i ddatblygwyr tyrbinau ynni llanw i weithredu eu technoleg ar raddfa fasnachol. Yn hytrach na chynhyrchu trydan ei hun, bydd Morlais yn darparu’r caniatâd a'r seilwaith sydd eu hangen ar ddatblygwyr i gynhyrchu trydan.
2. Pwy yw Menter Môn?
Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy'n gweithredu ar draws Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weuthio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnesau ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.
3. Beth yw rôl Stad y Goron?
Sicrhaodd Menter Môn brydles Stad y Goron ar gyfer parth 35KM2 o wely’r môr, a elwid bryd hynny yn ‘Barth Arddangos Gorllewin Ynys Môn’. Dyma’r ardal yr rydym yn ei hadnabod bellach fel Morlais.
Mae’r parth yn un o nifer o amgylch y Deyrnas Unedig sydd wedi’u dynodi gan Stad y Goron mewn ymgais i annog a chyflymu datblygu technoleg llif llanw.
Mae pob un o’r parthau wedi eu dewis oherwydd eu bod yn cynnig potensial ynni tonnau a llanw priodol, yn ogystal â mynediad i seilwaith angenrheidiol, gan gynnwys porthladdoedd a grid trydan.
4. Beth nesaf i Morlais?
Mae disgwyl i ddyfeisiau ynni llanw gael eu gosod yn y môr o 2027. Bydd dyfeisiau yn cael eu gosod yn raddol i sicrhau nad yw adar a mamaliaid morol yn cael eu niweidio.
Yn y cyfamser, bydd gwaith monitro amgylcheddol, cynllunio a pharatoi yn parhau i sicrhau fod y dechnoleg yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac effeithiol.
5. Pwy sy’n ariannu Morlais?
Mae Morlais a’r prosiectau cysylltiedig (gweler isod) wedi derbyn cyllid o wahanol ffynonellau gan gynnwys Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru; Llywodraeth Cymru; Awdurdod Datgomisiynu Niwclear; Cynllun Twf Gogledd Cymru; Stad y Goron; a Chyngor Sir Ynys Môn.
Unwaith y bydd yn weithredol, bydd datblygwyr fydd yn gweithredu o Morlais yn elwa ar gynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU, sy’n darparu pris gwarantedig ar gyfer trydan adnewyddadwy y maen nhw’n ei gynhyrchu.
6. Beth yw Contractau ar gyfer Gwahaniaeth Llywodraeth y DU a sut mae’n berthnasol i Morlais?
Y cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth yw prif ffordd Llywodraeth y DU o gefnogi prosiectau trydan carbon isel. Mae’n rhoi pris sefydlog, hirdymor i brosiectau ynni adnewyddadwy ar gyfer y trydan sy’n cael ei gynhyrchu. Os yw prisiau’r farchnad yn is, mae’r prosiect yn derbyn swm atodol, ac os ydynt yn uwch, mae’r gwahaniaeth yn cael ei dalu’n ôl.
7. Beth yw ynni llif llanw?
Mae ynni llif llanw yn fath o ynni adnewyddadwy sy’n defnyddio llif naturiol ceryntau llanw i gynhyrchu trydan. Oherwydd bod y llanw yn rheolaidd ac yn gallu cael ei ragweld, mae’n ffynhonnell ddibynadwy o bŵer glân, carbon isel.
8. Sut mae’n gweithio?
Mewn rhai ardaloedd arfordirol, mae ceryntau llanw sy’n symud yn gyflym yn creu’r amodau cywir ar gyfer cynhyrchu trydan. Mae arfordir gorllewinol Ynys Môn ac Ynys Cybi yn un o’r lleoedd hyn, gyda rhai o’r ceryntau cryfaf yn Ewrop.
Mae dyfeisiau a thyrbinau llanw yn defnyddio symudiad y dŵr i yrru generadur sy’n cynhyrchu trydan. Yna mae’r trydan hwnnw’n cael ei gludo gan geblau i is-orsaf cyn cael ei fwydo i’r grid cenedlaethol ar gyfer cartrefi a busnesau.
9. Ble arall mae ynni llif llanw yn cael ei ddatblygu?
Mae ynni llif llanw yn cael ei ddatblygu a’i brofi mewn sawl lleoliad arfordirol yn y DU a ledled y byd. Yn y DU, mae safleoedd allweddol yn cynnwys Orkney, y Pentland Firth yn yr Alban, a Strangford Lough yng Ngogledd Iwerddon. Yn rhyngwladol, mae prosiectau a phrofion hefyd wedi digwydd mewn gwledydd fel Ffrainc, Canada, Japan ac Ynysoedd Faroe, lle mae ceryntau llanw cryf yn creu amodau addas ar gyfer y dechnoleg yma.
10. A yw dyfeisiau llanw yn berygl i fywyd morol?
Er mwyn sicrhau fod y dyfeisiau a’r tyrbinau yn cael eu defnyddio’n ddiogel o fewn Parth Morlais, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr ar brosiect Tanfor (Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol yn flaenorol). Nod Tanfor yw diogelu bywyd gwyllt morol a sicrhau bod tyrbinau ynni llanw yn cael eu gosod yn ddiogel. Trwy'r gwaith hwn, mae Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol yn cael ei ddatblygu i lywio sut mae dyfeisiau’n cael eu defnyddio a’u gweithredu’n gyfrifol.
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys mesurau monitro a lliniaru amgylcheddol i leihau unrhyw effaith bosib ar famaliaid morol, adar môr a bywyd gwyllt arall. Mae hefyd yn cefnogi dull graddol o ddatblygu, fel bod modd cyflwyno’r dyfeisiau yn fesul dipyn a dim ond ehangu pan fydd tystiolaeth yn dangos ei fod yn ddiogel gwneud hynny.
11. Sut wnaeth prosiect Tanfor (MCRP) wneud hyn?
Gweithiodd Tanfor gyda phartneriaid o’r byd academaidd, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar nifer o brosiectau i fonitro ymddygiad bywyd gwyllt. Ymhlith y rheini roedd bwi ymchwil Marinus – mae’r Marinus wedi bod yn ganolog i olrhain mamaliaid ac adar yn yr ardal. Wedi’i arfogi â thechnoleg fonitro arloesol, bydd y wybodaeth a’r data y mae wedi ei gasglu yn hanfodol i ddiogelu bywyd gwyllt wrth i gynllun ynni llanw Morlais ddatblygu.
Mae’r holl ddata sydd wedi ei gasglu gan Tanfor wedi cyfrannu’n sylweddol at Gyfnewidfa Data Morol Stad y Goron, sy’n ychwanegu at sylfaen dystiolaeth gynyddol ac yn galluogi trafodaethau ar drosglwyddadedd data yn y DU.
Bydd data sydd wedi ei gasglu trwy Tanfor hefyd ar gael i gynlluniau llanw ledled y byd a bydd yn helpu i hyrwyddo twf y sector.
12. Sut mae dyfeisiau a thyrbinau ynni llanw yn edrych?
Mae yna nifer o wahanol fathau o ddyfeisiau a thyrbinau ynni llanw. Maen nhw’n cynnwys dyfeisiau wedi eu hangori i wely’r môr, yng nghanol y dŵr, yn ogystal ag arnofio ar yr wyneb.
13. A fydd modd gweld neu glywed y tyrbinau a’r dyfeisiau?
Ni fydd modd gweld llawer o’r dyfeisiau; fodd bynnag, bydd y dyfeisiau sy’n arnofio ar yr wyneb yn weladwy.
14. Beth yw budd Morlais i bobl a busnesau lleol?
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ardal leol yn elwa o Morlais. Mae Menter Môn Morlais eisoes yn cyflogi 19 o bobl a bydd yn creu mwy o swyddi yn y dyfodol wrth i’r cynllun dyfu. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd cadwyn gyflenwi, prentisiaethau a hyfforddiant. Rydym eisoes yn gweithio gyda nifer o fusnesau lleol i gyflawni Morlais – mae disgwyl i hyn gynyddu wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen.
15. Sut ydym ni’n helpu busnesau lleol?
Mae gennym Swyddog Cadwyn Gyflenwi penodol sy’n rhwydweithio’n â busnesau lleol i’w hysbysu a’u cefnogi i wneud cais am gyfleoedd gyda Morlais. Rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithdai ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn rheolaidd hefyd.
16. Sut ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyda Morlais a’r diwydiant llanw yn y dyfodol?
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Grŵp Llandrillo Menai (coleg addysg bellach), Prifysgol Bangor, Gyrfa Cymru a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru i sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Morlais yn cael eu datblygu heddiw. Mae gennym Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant sy’n ymweld ag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol yn rheolaidd i godi ymwybyddiaeth am Morlais a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn cynnal profiadau gwaith a lleoliadau interniaeth i bobl ifanc i’w helpu i ddysgu mwy am y diwydiant.
17. Sut ydych chi’n cynnwys a chyfathrebu â gymuned leol?
Rydym yn mynychu digwyddiadau lleol yn rheolaidd fel Sioe Môn a gwyliau lleol eraill i gyfarfod a siarad â chymunedau lleol am Morlais.
Mae gennym sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn eu defnyddio i rannu’r newyddion diweddaraf ac mae gennym newyddlen chwarterol y gall pobl danysgrifio iddo er mwyn cael y newyddion diweddaraf yn uniongyrchol i’w blwch e-bost. Gallwch gofrestru yma.
Mae gennym hefyd Grŵp Cyswllt Cymunedol (CLG) sy’n cyfarfod bob chwe mis gyda chynrychiolwyr wedi eu gwahodd o grwpiau buddiant a chymdeithasau lleol. Rydym yn diweddaru aelodau ar ddatblygiadau diweddar yn y CLG.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan morlaisenergy.com neu e-bostiwch info@morlaisenergy.com
