Caniatâd

Cartref > Caniatâd

Gwneud cais am ganiatâd

Fe wnaeth Menter Môn gais i Lywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith am ganiatâd i ddatblygu a gweithredu parth Morlais. Gwnaeth Menter Môn gais hefyd i Dîm Trwyddedu Morol Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Roedd y ddwy broses yn rhedeg ar yr un pryd – a daeth caniatâd ym mis Rhagfyr 2021.

Asesiad Effaith Amgylcheddol

Roedd Asesiad Effaith Amgylcheddol yn cael ei baratoi fel rhan o’r broses a chyda mewnbwn gan ymgynghorai statudol. Cytunwyd y sgop gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Cafodd arbenigwyr annibynnol eu comisiynu i gynnal astudiaethau manwl er mwyn deall effeithiau posib y prosiect ar yr amgylchedd – o’r gwaith adeiladu i’r gwaith digomisiynu. Roedd yr astudiaethau’n edrych ar:

  • Waddod morol a safon y dwr.
  • Treftadaeth naturiol, ecoleg gwaelod y môr, mamaliaid y môr, pysgod a physgod cregyn, adareg, ecoleg daearol ac arfordirol.
  • Morlun a thirlun.
  • Llongau a mordwyaeth.
  • Archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol.
  • Twristiaeth a gweithgareddau hamdden.

Roedd ymgynghori’n rhan bwysig o’r astudiaethau – gydag ymgynghori statudol ar faterion technegol allweddol yn ogystal ag ymgynghori gyda’r gymuned ac eraill sydd â diddordeb yn y prosiect.

Cafodd y datganiad amgylcheddol ei gyflwyno gyda’r cais am ganiatâd. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am yr effeithiau amgylcheddol posib a pha fesurau fyddwn yn eu cymryd i sicrhau bod yr effaith yn cael ei leihau neu ei osgoi yn gyfan gwbl.

 
Cam 1 – Cais am ganiatâd

Roedd y cam yma yn ceisio sicrhau caniatâd i ddatblygu prosiect Morlais.

Cam 2 – Rhoi’r prosiect ar waith

Daeth penderfyniad ar gais Morlais am ganiatâd fis Rhagfyr 2021. Yn dilyn hyn, byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen er mwyn rhoi’r datblygiad ar waith.

Bydd y gwaith adeiladu’n digwydd fesul dipyn. Bydd y gwaith ar y lan ddigwydd yn ystod 2022, gyda’r gwaith allan yn y môr yn cychwyn yn ystod 2023. Yna bydd datblygwyr technoleg llif llanw yn gallu gosod eu dyfeisiadau yn y môr er mwyn cynhyrchu trydan.