Ynni Llanw
Cartref > Amdanom Ni > Ynni Llanw
Gall ynni’r llanw gael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Mae’n ynni adnewyddadwy sy’n garbon isel, yn lân ac yn ddibynadwy. Mae’n ffynhonnell bwysig o ynni wrth i ni daclo newid hinsawdd a chyrraedd targedau sero net.
Sut mae ynni llanw yn gweithio?
Mewn ambell i le arfordirol mae ffurf y tir a gwely’r môr yn achosi i’r llanw symud mwy na’r arfer gan greu ynni all gael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Mae arfordir gorllewinol Môn ac Ynys Cybi’n un o’r llefydd yma, gydag un o adnoddau ynni llanw cryfaf yn Ewrop a cherynt o hyd at 3.7 m/s neu 7 not.
Dyma’r rheswm y penderfynodd Ystâd y Goron yn 2014 i ddynodi ardal 35 km² o wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Cybi yn Barth Arddangos Gorllewin Môn ar gyfer ynni llanw. Hon yw’r ardal rydyn ni bellach yn ei hadnabod fel Morlais. Y bwriad wrth ddynodi’r parth arddangos oedd annog twf a rhoi hwb i’r sector ynni llanw.
Sut mae creu trydan o ynni llif llanw?
Mae gan ddyfeisiadau ynni llif llanw dair rhan:
-
Rhan sy’n defnyddio symudiad y dŵr i droi generadur i gynhyrchu trydan
-
Angor i gadw’r ddyfais yn y dŵr
-
Sylfaen neu angor sy’n dal y peiriant yn ei le
Mae rhannau sy’n symud neu’n cynhyrchu trydan yn aros o dan y dŵr.
Sut mae peiriannau ynni llanw’n edrych?
Mae sawl math gwahanol o ddyfeisiadau ynni llanw. Mae rhai yn cael eu gosod yn gyfan gwbl o dan wyneb y dŵr tra bod eraill yn arnofio ar yr wyneb.
Enghreifftiau yn unig yw’r delweddau isod o’r math o dechnoleg all gael ei leoli yn Morlais.