Cyfleoedd Caffael
Cartref > Cadwyn Gyflenwi > Cyfleoedd Caffael
Mae prosiect Morlais yn cynnig ystod eang o gyfleoedd caffael yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu. Mae’r cyfleoedd hyn ar gael yn uniongyrchol gyda Morlais a’n cymuned o ddatblygwyr wrth iddynt symud ymlaen i osod eu dyfeisiadau yn llwyddiannus o 2026 ymlaen.
O'r cychwyn cyntaf rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol i sicrhau bod ynni llif llanw yn darparu buddion economaidd hirdymor i'r rhanbarth. Mae Menter Môn wedi darparu gwasanaethau cymorth allweddol i fusnesau ers bron i 20 mlynedd ac felly mae gennym y gallu a’r cymwysterau i adnabod a datblygu cadwyn gyflenwi Morlais.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y nod ehangach o ddatblygu Ynys Môn a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru, yn ganolbwynt sy’n arbenigo mewn ynni adnewyddadwy, a fydd yn cynyddu cyfleoedd cyflogaeth i’r rhanbarth. Dyma rai o’r meysydd posibl lle bydd cyfleoedd caffael yn codi:
- Adeiladu arbenigol - gwneuthuriad a gosod terfynol
- Ymgynghoriaeth forol - monitro amgylcheddol a geodechnegol
- Cyfleusterau porthladd a llogi cychod
- Gosod ceblau a chysylltiadau grid
Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael yw'r wefan GwerthwchiGymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru hefo'r nod i:
- helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru
- helpu prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendr
- helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
- helpu busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd tendro addas
Cliciwch ar y llun isod i ddarganfod mwy am y cyfleoedd caffael sydd ar gael ar hyn o bryd ym Menter Môn Morlais Cyf.