Stori Morlais
Cartref > Amdanom Ni > Stori Morlais
Prosiect ynni llif llanw Menter Môn ydy Morlais. Mae’n rheoli ardal 35Km² o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân carbon isel.
Yn 2014 dynododd Ystâd y Goron ardal 35Km² o wely’r môr oddi ar arfordir Ynys Cybi yn Barth Arddangos Gorllewin Môn ar gyfer ynni llanw. Dyma’r ardal rydyn ni bellach yn ei hadnabod fel Morlais. Y bwriad wrth ddynodi’r parth arddangos oedd annog twf y sector ynni llanw. Llwyddodd Menter Môn i sicrhau’r les bryd hynny gan gan guro cystadleuaeth o bob cwr o’r byd.
Y nod yw chware rhan wrth daclo newid hinsawdd tra’n sicrhau budd economaidd a chymdeithasol i gymunedau lleol ac i’r rhanbarth yn ehangach. Fel cwmni lleol mae hyn wedi bod yn ganolog i’n gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf.
Mae’r prosiect a’r modd y bydd yn gweithredu yn unigryw, a’r unig un o’i fath yn y byd. Bydd Morlais yn rhoi’r isadeiledd angenrheidiol yn ei le yn y parth, gan gynnwys cysylltiad i’r grid cenedlaethol ac is-orsaf ar y lan ger Ynys Lawd ac yn Parc Cybi. Yna bydd yn rhentu angorfeydd i gwahanol gwmnïau datblygu tyrbinau er mwyn iddynt ddefnyddio ynni’r llanw i gynhyrchu trydan. Gall hyn olygu bydd gwahanol fathau o dechnoleg cynhyrchu trydan yn cael ei osod yn y môr fel rhan o Morlais.
Roedd rhan gyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar geisio sicrhau caniatâd Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu. Roedd ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r gymuned a rhan-ddeiliad statudol yn rhan allweddol o hynny. Cyflwynwyd y cais yn yr hydref 2019, a daeth caniatâd ym mis Rhagfyr 2021.
Mae ail ran y prosiect yn rhoi’r isadeiledd yn ei le fel y gall datblygwyr technoleg ynni llanw osod eu dyfeisiadau yn y môr. Y bwriad yw datblygu’r safle gam wrth gam sy’n golygu mai fesul dipyn fydd dyfeisiadau yn cael eu cyflwyno i’r dŵr er mwyn sicrhau na fydd bywyd gwyllt morol yn cael ei niweidio.
Morlais yw’r cynllun mwyaf yn y byd o’r math yma sydd wedi derbyn caniatâd – ac o’r herwydd mae potensial go iawn yma i roi Môn a gogledd Cymru ar y map o safbwynt y sector pwysig hwn.