Hyfforddiant a Sgiliau

Cartref > Addysg > Hyfforddiant a Sgiliau

Mae Morlais wedi ymrwymo i greu a darparu cyfleodd i ddatblygu sgiliau lleol. Mae’n gweithio gyda sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ar draws gogledd Cymru i sicrhau bod hyfforddiant addas yn ei le i baratoi gweithlu sgil uchel ar gyfer y cynllun – o’r cyfnod adeiladu i’r cyfnod gweithredu.

Mae cyfleodd ar gael yn uniongyrchol gyda Menter Môn Morlais Cyf a gyda’n contractwyr a datblygwyr technoleg ynni llif llanw sy’n cyflogi prentisiaid a graddedigion ar ein safleoedd.

Nid dim ond ym maes peirianneg a thechnoleg mae’r cyfleodd. Eisoes mae rheolwyr prosiect, dylunwyr graffeg, cyfrifwyr, cyfreithwyr, arbenigwyr bywyd gwyllt morol, arbenigwyr ynni adnewyddadwy a llawer mwy yn gweithio ar y prosiect. Dyma dim ond rhai o’r sgiliau fydd eu hangen ar Morlais nawr ac i’r dyfodol.

Mae ein partneriaid yn y maes datblygu sgiliau a hyfforddiant yn cynnwys:

Rydym yn cynnal gweithgor chwarterol ar gyfer partneriaid a rhan-ddeiliaid perthnasol i hyrwyddo a gwneud yn fawr o’r cyfleodd datblygu sgiliau a hyfforddiant y mae Morlais yn eu cynnig. I ddysgu mwy am y Gweithgor Sgiliau a Hyfforddiant cysylltwch â’n Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant.