Ffarwelio'r bwi monitro
Cartref > Amdanom Ni > Tanfor > Ffarwelio'r bwi monitro
Ffarwelio â bwi monitro bywyd gwyllt ger arfordir Caergybi
Mae cynllun ynni llanw Morlais yng ngogledd Cymru yn nodi carreg filltir arwyddocaol yr wythnos hon wrth ffarwelio â bwi’r ‘Marinus’. Mae’r platfform monitro arbenigol wedi bod yn ganolog i waith ymchwil bywyd gwyllt oddi ar arfordir Môn ers dros ddwy flynedd. Gyda symud y bwi o’r safle, bydd un cyfnod o gasglu data yn dod i ben, cyn i dyrbinau llanw gael eu gosod ym mharth Morlais dros yr blynyddoedd nesaf.
Wedi'i lansio yn 2024 fel rhan o Brosiect Ymchwil Nodweddu Morol (MCRP) dan arweiniad Menter Môn, mae'r Marinus wedi bod yn ganolog i’r gwaith o ddeall patrymau ac ymddygiad mamaliaid ac adar morol yn yr ardal. Bydd y wybodaeth a'r data y mae wedi'u casglu gan ddefnyddio’r dechnoleg monitro ddiweddaraf yn ganolog i’r gwaith o ddiogelu bywyd gwyllt wrth i gynllun ynni llanw Morlais symud yn ei flaen.
Mae’r Marinus wedi recordio gweithgaredd dolffiniaid gan ddefnyddio cyfuniad arloesol o dechnolegau monitro am y tro cyntaf gan gynnwys technoleg dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn wedi'i gydnabod fel llwyddiant arwyddocaol i'r sector ac mae wedi galluogi trafodaethau gyda rheoleiddwyr am ddyfodol monitro a chaniatáu datblygiadau fel Morlais.
Mae'r holl ddata sydd wedi ei gasglu gan y MCRP yn cael ei rannu ac mae wedi cyfrannu'n sylweddol at Gronfa Data Morol (Marine Data Exchange) Ystâd y Goron, gan ychwanegu at dystiolaeth a hwyluso trafodaethau ar drosglwyddo data yn y DU.
Dywedodd Helen Roberts, Rheolwr Prosiect Amgylchedd a Chydymffurfiaeth Menter Môn: “Rydyn ni’n falch ein bod wedi gallu dod â'r Marinus i ogledd Cymru a gweithio gyda’n partneriaid i ddefnyddio technoleg monitro a allai hwyluso’r broses o sicrhau caniatâd i gynlluniau fel Morlais yma yn y DU a thu hwnt.
“Yn bwysicach, bydd y data rydyn ni wedi ei gasglu yn helpu i sicrhau bod modd gosod a defnyddio dyfeisiau ynni llanw ym mharth Morlais yn ddiogel fel rhan o'n hymrwymiad i amddiffyn bywyd gwyllt. Rydym wedi defnyddio technoleg sonar ac acwstig a deallusrwydd artiffisial yma, ynghyd ag offer arloesol nad oes unrhyw gynllun arall wedi dreialu o’r blaen.
“Rydym bellach yn canolbwyntio ar y cam nesaf ac yn gobeithio gallu addasu'r offer a'r fethodoleg sydd wedi ei dreialu yma i'w defnyddio'n ehangach, gan gynnwys mewn cynlluniau ynni gwynt yn y môn a diwydiannau eraill sy'n ceisio deall a lleihau eu heffaith ar fywyd gwyllt morol. Rydym yn edrych ymlaen rŵan at adeiladu ar waddol yr ymchwil a'r gwaith rydym wedi ei wneud hyd yma."
Mae partneriaid y prosiect wedi cynnwys arbenigwyr technoleg morol – Seiche a MarineSitu, ochr yn ochr â’r contractwyr Leask, a Francis Marine, sydd wedi cefnogi’r gwaith o redeg y bwi.
Mae diogelu’r amgylchedd a bywyd gwyllt wedi bod yn flaenoriaeth i Menter Môn Morlais o’r cychwyn. Bydd gwybodaeth o’r MCRP yn rhan hanfodol o hyn, gan sicrhau y gall tyrbinau ynni llanw weithredu’n ddiogel o fewn cynefinoedd morol sensitif. Wrth i’r ymchwil barhau, mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr oddi ar arfordir Ynys Cybi a dechrau cynhyrchu trydan glân o 2027.
