Ateb
Cartref > Cadwyn Gyflenwi > Astudiaethau Achos > Ateb
Mae Ateb yn gwmni sy’n cynnig cefnogaeth arbenigol ar gyfathrebu strategol a chymorth ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg i sefydliadau a busnesau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y maes, mae Ateb yn helpu cleientiaid i gysylltu'n effeithiol â chynulleidfaoedd.
Rydym wedi gweithio'n agos gydag’r cwmni ers dechrau prosiect Morlais ac yn parhau i gydweithio’n llwyddiannus gyda nhw heddiw.
Dros y blynyddoedd, mae Ateb wedi ein helpu i gynllunio a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys diwrnodau gwybodaeth i'r cyhoedd ac agoriad swyddogol is-orsaf Morlais. Maen nhw hefyd yn ein cefnogi ni gyda chreu strategaethau cyfathrebu sy'n cyd-fynd â'n hamcanion, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, rheoli enw da a chynllunio cynnwys dwyieithog.
Mae Ateb hefyd yn ein cefnogi gyda’n perthynas â’r wasg, ymgysylltu cymunedol a gyda rhanddeiliaid ac i werthuso effaith ein gweithgareddau cyfathrebu, gan gyfrannu at wella ein presenoldeb ar-lein.
Dywedodd Llinos Iorweth, Cyfarwyddwr Ateb: “Mae wedi bod yn fraint cael gweithio ar Morlais ers y dyddiau cynnar. Rydym wedi gweld y cynllun yn tyfu o gynigion ar bapur drwy’r gwaith o ddatblygu seilwaith ac agor is-orsaf ar Ynys Cybi – mae hynny yn rhywbeth rydyn ni yn falch iawn ohono. Mae’n gwaith yn parhau hyd heddiw, ac mae’n gyffrous wrth i edrych ymlaen at y cam nesa yn hanes y cynllun.
“Rydyn ni’n teimlo fel rhan o’r tîm ac mae’r weledigaeth sy’n gyrru Menter Môn a Morlais i ddod a budd i'r ardal yn bwysig i ni yn Ateb hefyd, fel cwmni sydd â’n gwreiddiau ym Môn.”
Dysgwch fwy am Ateb ar eu gwefan:Ateb
