Signs & Design
Cartref > Cadwyn Gyflenwi > Astudiaethau Achos > Signs & Design
Busnes teuluol yn Llangefni ar Ynys Môn yw Signs and Design ac maent wedi bod yn gweithio gyda Morlais drwy ddarparu arwyddion a gofynion argraffu.
Mae hyn wedi cynnwys byrddau gwybodaeth sydd wedi'u gosod yn is-orsaf Morlais yn egluro stori Morlais i ymwelwyr ei darllen a chael gwell dealltwriaeth o'r prosiect.
Dywedodd Rach Wigley o Signs and Design: “Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o'r broses o'r dechrau, ac rydym wedi gallu gwneud cysylltiadau eraill o weithio gyda Morlais a sicrhau gwaith ychwanegol”
Gallwch ddysgu mwy am Signs and Design ar eu gwefan:Signs & Design



