Budd i fusnesau lleol
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Budd i fusnesau lleol
Dydd Mawrth 3ydd Chwefror, 2026
Budd i fusnesau lleol yn sgil gwaith ymchwil cynllun ynni llanw
Mae busnesau ar Ynys Môn eisoes yn gweld y manteision economaidd wrth i waith ddatblygu ar gynllun ynni llanw Morlais a’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP) cysylltiedig. Hyd yn oed cyn i gynhyrchu trydan ddechrau o’r safle, mae’r gwaith ymchwil a monitro hanfodol sydd ei angen i gwrdd â gofynion trwydded y cynllun eisoes yn creu cyfleoedd ar gyfer cwmnïau ar draws y rhanbarth.
Ymhlith y busnesau hynny mae Francis Marine, o Gaergybi. Enillodd y cwmni gytundeb yn wreiddiol i fod yn rhan o waith gosod bwi monitro amgylcheddol oddi ar arfordir Ynys Cybi. Bellach, mae ei rôl wedi ehangu ac yn cynnwys cynnal a chadw parhaus y platfform ymchwil.
Dywedodd Rheolwr Prosiect MCRP, Helen Roberts, fod y cynllun wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa o gynllun Morlais ac MCRP. “I ni, rhan allweddol o’r gwaith hwn yw sicrhau manteision lleol. Mae hyn yn cynnwys swyddi a darparu cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi yn yr ardal. Mae Francis Marine yn enghraifft wych o sut mae gwahanol fusnesau eisoes yn cydweithio efo ni.”
Ychwanegodd: “Wrth i ni symud i’r cam nesaf ac edrych tuag at osod dyfeisiau ynni llanw yn y môr a chynhyrchu trydan, mae monitro bywyd gwyllt yn parhau i fod yn allweddol. Drwy’r MCRP, rydym yn torri tir newydd yn gyson gyda’r technoleg rydyn yn ei ddefnyddio i gasglu data i gefnogi gosod tyrbinau’n ddiogel heb amharu ar fywyd gwyllt y môr. Fyddai hyn ddim yn bosib heb fusnesau fel Francis Marine.”
Dywedodd perchennog y cwmni, Mark Francis, ei fod wedi cael cyfleoedd gwerthfawr o ganlyniad i waith MCRP a Morlais, a'i fod eisoes yn ei helpu i gryfhau ei gapasiti a sgiliau yn lleol.
Meddai: “Mae gweithio gyda thimau Morlais a MCRP wedi bod yn gyfle gwych i ni. Nid yw’n ymwneud â’r prosiectau eu hunain yn unig, ond hefyd y cyfle i feithrin sgiliau yn lleol, gan ddangos bod busnesau yma sy’n gallu chwarae rhan allweddol wrth arloesi ym maes ynni adnewyddadwy. Mae’r gwaith hwn wedi ein caniatáu ni i ddatblygu ein harbenigedd ac wedi agor drysau ar gyfer twf i’r dyfodol.”
Mae gan Francis Marine fflyd o gychod gwaith, llongau deifio ac arbenigedd morol ehangach ac mae’r cwmni yn gweithredu ar draws Môr Iwerddon, Ynys Manaw a gorllewin yr Alban. Mae swyddog cadwyn gyflenwi benodol fel rhan o dîm Menter Môn Morlais yn sicrhau bod y budd economaidd yn cyrraedd cymaint o gwmnïau lleol â phosib.
Wrth i’r MCRP symud i gyfnod hollbwysig i’r prosiect, mae’r tîm yn awyddus i bwysleisio bod parhau’r buddsoddiad yn y gwaith yn hanfodol er mwyn cynnal momentwm, denu datblygiadau yn y dyfodol a chefnogi gwerth economaidd i Ynys Môn. Mae profiad Francis Marine yn enghriafft o’r budd ehangach a allai ddod wrth i gynllun Morlais fynd rhagddo.
