Buddsoddiad o £2m

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Buddsoddiad o £2m

Cam mawr ymlaen i Morlais gyda buddsoddiad o £2m o Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru

Mae Morlais yn nodi carreg filltir allweddol ac yn symud gam yn nes at gynhyrchu trydan glân oddi ar arfordir Môn yn dilyn cytundeb newydd gwerth £2 filiwn ar gyfer y datblygwr ynni llanw HydroWing Ltd. Daw y buddsoddiad drwy Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru, dan arweiniad Uchelgais Gogledd Cymru i helpu i ddatblygu prosiectau ynni gwyrdd ar draws y rhanbarth.

Bydd yr arian yn cyfrannu at adeiladu a rhoi tyrbinau llanw HydroWing ar waith ym mharth Menter Môn Morlais, gyda disgwyl i’r dyfeisiau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2027. Mae prosiect HydroWing yn gam pwysig ymlaen yn natblygiad Morlais, sy’n darparu’r seilwaith sydd ei angen i gysylltu dyfeisiau ynni llanw â’r grid trydan. Yn ogystal â chyfrannu at gynhyrchu trydan glân, bydd y prosiect yn creu swyddi da ac yn dod â chyfleoedd i fusnesau lleol a’r gadwyn gyflenwi yn ehangach.

Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf: “Mae’r buddsoddiad hwn yn gyfraniad pwysig ac yn hwb sylweddol i HydroWing ac i Morlais – mae’n dangos pwysigrwydd partneriaeth wrth ddatblygu’r sector ynni llanw. Mae’r seilwaith eisoes yn ei le yma i gefnogi dyfeisiau ynni llanw, a bydd prosiectau fel hyn yn helpu i droi’r potensial hwnnw’n drydan glân, swyddi o safon a chyfleoedd i gymunedau a busnesau ar hyd a lled y gogledd.”

Ychwanegodd Richard Parkinson, Prif Weithredwr HydroWing, adran ynni llanw Inyanga Marine Energy Group: “Mae sicrhau’r cyllid hwn gan Uchelgais Gogledd Cymru yn garreg filltir bwysig, sy’n ein galluogi i osod ein dyfais ynni llanw cyntaf ym mharth Morlais yn 2027. Mae’r buddsoddiad yn gosod y sylfaen ar gyfer ein cynlluniau ar gyfer ein datblygiad masnachol 30MW a’n huchelgais i roi Cymru ar y map o ran technoleg ynni llanw, gan greu swyddi, cryfhau’r gadwyn gyflenwi ac agor cyfleoedd allforio rhyngwladol sylweddol.”

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol Uchelgais Gogledd Cymru dros Ynni Carbon Isel ac Arweinydd Cyngor Ynys Môn: “Mae ein Cronfa Ynni Glân yn mynd o nerth i nerth ac rwy’n falch iawn ei bod wedi bod yn bosibl cefnogi HydroWing i ddatblygu Morlais ymhellach, gan nodi cam pwysig ymlaen i economi carbon isel Gogledd Cymru. Mae Uchelgais Gogledd Cymru eisoes wedi cefnogi Morlais drwy brosiect Cydnerth i cyswllt grid lleol. Felly, mae’n wych gallu adeiladu ar hynny.”

Mae Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a’i gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru.


Pob Newyddion