Cyfraniad i sector ynni morol Cymru
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cyfraniad i sector ynni morol Cymru
Dydd Mercher Mawrth 20fed, 2024
Cydnabod cyfraniad i sector ynni morol Cymru
Mae Gerallt Llewelyn Jones, Cyfarwyddwr Menter Môn Morlais Cyf , wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i'r sector ynni morol gyda gwobr arbennig gan Ynni Morol Cymru (MEW).
Derbyniodd Gerallt wobr 'Ysbryd y Môr' yng nghynhadledd flynyddol MEW yn Abertawe yn ddiweddar. Bwriad y wobr, oedd yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf eleni, yw dathlu unigolion neu sefydliadau y mae eu hangerdd, eu hymrwymiad a'u gweledigaeth wedi bod yn sbardun i dwf y sector ynni morol Cymreig.
Wrth dderbyn ei wobr diolchodd Gerallt i MEW, a dywedodd: "Mae wedi bod yn fraint wirioneddol cael gweithio yn y diwydiant hwn ers dros deng mlynedd. Rwy'n rhyfeddu at dalent cydweithwyr ac ymrwymiad pobl yn ein cymuned ddatblygu.
"Does neb yn cyflawni unrhyw beth ar eu pen eu hunain, a dyna pam rydw i eisiau derbyn y wobr yma ar ran yr unigolion a’r tîm rydw i wedi cydweithio'n agos efo nhw am gyfnod mor hir - yr holl bobl rydw i wedi cael y fraint o ddysgu llawer iawn ganddyn nhw.
"Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi ei gael gan ein rhanddeiliaid wedi bod yn holl-bwysig ac rwy'n hyderus wrth ddweud ein bod wedi gwneud defnydd da o'r cyllid rydym wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd, a byddwn yn parhau i wneud hynny."
Yn wreiddiol o Fôn, ac yn gyn-athro ysgol, sefydlodd Gerallt Menter Môn yn 1995. Ym mis Mehefin 2014, sicrhaodd Gerallt, trwy Menter Môn prydles Stâd y Goron ar gyfer ardal 35km2 o wely'r môr, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi. Dyma’r ardal sydd bellach yn cael ei adnabod fel Morlais, bellach y cynllun ynni llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi sicrhau caniatâd a trwydded datblygu. Mae model gweithredu Morlais yn cael ei gydnabod fel un unigryw o fewn y sector hefyd, yn un sy’n rhoi seilwaith yn ei le er mwyn lleihau risg masnachol i ddatblygwyr ynni llanw wrth gysylltu â’r grid.
Unwaith y bydd yn weithredol, mae gan Morlais y potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan. Mae disgwyl i'r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.
Tom Hill, yw Rheolwr Rhaglen MEW. Mae’n ychwanegu: "Mae angerdd ac ymrwymiad Gerallt i roi Cymru ar flaen y gad o ran gwireddu potensial ynni llanw yn wirioneddol ysbrydoledig i mi yn MEW. Mae prosiect Morlais, diolch i ymdrechion diflino Gerallt wedi sicrhau lle i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol o ran ynni llanw, ac wedi darparu glasbrint ar gyfer datblygwyr a dyfodol y diwydiant. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i ddiolch i Gerallt am ei waith caled a'i ymrwymiad dros y blynyddoedd."