Cyhoeddi dyraniad ynni

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cyhoeddi dyraniad ynni

Dydd Mawrth 10fed Chwefror, 2026 

Cyhoeddi dyraniad ynni newydd ar gyfer ynni llanw Ynys Môn

Mae cynllun ynni llanw Morlais ar Ynys Môn wedi derbyn dyfarniad o 18.5MW ychwanegol yn arwerthiant ynni diweddar (Allocation Round 7) Llywodraeth DU ar ar gyfer Contractau Gwahaniaeth (CfD). Mae perchennog y cynllun, Menter Môn Morlais Cyf wedi croesawu cyhoeddiad heddiw gan ddweud y bydd y dyfarniad yn cefnogi’r gwaith parhaus gyda datblygwyr ar y cynllun.

Mae tri datblygwr wedi bod yn llwyddiannus fel rhan o'r dyfarniad y tro hwn, sef Hydrowing, QED Naval and Tidal Technologies Ltd – gan gyfrannu at ddatblygiad Morlais oddi ar arfordir Caergybi. Mae'r cyhoeddiad yn rhoi sicrwydd refeniw i ddatblygwyr ar gyfer y trydan fydd yn cael ei gynhyrchu yn Morlais ac yn dod â'r cyfanswm sydd wedi ei sicrhau hyd yma i 56.5MW. Mae'r canlyniad yn adlewyrchu natur gystadleuol rownd eleni ac yn dilyn sawl mis o drafodaethau yn y sector ynglŷn â lefelau cyllido. Yn sgil y cyhoeddiad bydd gwaith yn canolbwyntio ar adeiladu momentwm a chydweithio gyda datblygwyr a chyllidwyr i symud ymlaen â'r camau nesaf.

Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf: “Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw ac yn falch o weld cynnydd a dyfarniad fydd o help i sicrhau buddsoddiad a swyddi i ogledd Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i greu cyfleoedd i fusnesau lleol a chymunedau ar Ynys Môn.

“Mae gan Morlais rôl bwysig i'w chwarae yn y sector ynni adnewyddadwy, ac rydym wedi ymrwymo’n llawn i weithio gyda llywodraeth a rhanddeiliaid i sicrhau bod y rhanbarth yn elwa'n llawn a bod cynnydd yn parhau ar gyfer ynni a thargedau sero net.”

Un o'r datblygwyr llwyddiannus yw Tidal Technologies Limited (TTL), sydd wedi sicrhau CfD am y tro cyntaf. Dywedodd Jamie Scrimgeour, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y cwmni: “Rydym yn hynod o falch ein bod wedi sicrhau ein CfD cyntaf trwy AR7 Llywodraeth y DU ac yn diolch i Menter Môn a thîm gwych Morlais am eu cefnogaeth i wneud hyn yn digwydd. Sefydlwyd Tidal Technologies yn 2021 i ddatblygu TT2, sef dyfais trosi ynni llanw dwy echel i gynhyrchu ynni glân a dibynadwy, ar raddfa fawr, o rym y llanw. Mae TTL yn bwriadu gosod eu dyfais 3MW graddfa lawn cyntaf ym mharth Morlais yn 2027 gyda 27MW pellach yn yr un ardal cyn gynted â phosib."

Datblygwr arall i dderbyn dyfarniad y tro hwn oedd QED Naval Group. Ychwanegodd David Campbell, Prif Swyddog Cyllid y cwmni: "Rydym yn falch o fod wedi sicrhau 5.5MW arall trwy'r rownd ddyrannu y tro hwn i’n is-gwmni Môr Energy. Mae’n dod â'n capasiti cyfan ar gyfer Morlais sydd wedi ei gefnogi gan CfD i 10MW. Mae anfon neges gref i gyllidwyr am arwyddocâd sicrwydd pris i leihau risg fasnachol ar gyfer technolegau cynnar. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog cyllidwyr cyhoeddus i ddarparu cyllid cynnar i brosiectau er mwyn dod â buddsoddwyr preifat i mewn i’r sector i alluogi ddatblygu ynni llif llanw fel rhan bwysig o gyflenwi’r grid.”

Sefydlwyd cynllun CfD i ddarparu cefnogaeth y Llywodraeth i'r sector ynni adnewyddadwy yn y DU trwy gynnig pris gwarantedig i ddatblygwyr am y trydan maen nhw'n ei gynhyrchu. Morlais yw'r datblygiad ynni llanw mwyaf sydd wedi'i ganiatáu yn Ewrop – gyda’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel glân. Mae disgwyl i'r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr o 2027.


Pob Newyddion