Cyhoeddi technoleg deallusrwydd artiffisial

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cyhoeddi technoleg deallusrwydd artiffisial

Cyhoeddi technoleg deallusrwydd artiffisial i ganfod bywyd gwyllt ar brosiect ynni’r llanw arloesol Inyanga

Mae HydroWing Ltd, adran ynni’r llanw Grŵp Ynni Morol Inyanga, wedi llofnodi contract gydag Ecodetect i gyflwyno datrysiadau monitro amgylcheddol sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i’w brosiect ynni’r llanw arloesol ym Morlais yng Nghymru.

Dywedodd Richard Parkinson, Prif Weithredwr Inyanga: “Mae prosiectau ynni’r llanw yn gweithredu mewn amgylcheddau morol sensitif. Bydd datrysiadau monitro Ecodetect sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ein helpu i gydbwyso perfformiad a chyfrifoldeb amgylcheddol. Drwy ganfod rhyngweithiadau â bywyd morol a monitro gweithgarwch seilwaith yn barhaus, bydd modd inni leihau risgiau ecolegol wrth wneud y defnydd mwyaf effeithlon o ynni.”

Mae prosiect 30MW Inyanga ym Morlais, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn defnyddio technoleg HydroWing patentiedig Inyanga. Mae Ecodetect yn dylunio, yn gosod ac yn gweithredu systemau monitro bywyd gwyllt morol cyflawn ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae ei systemau synwyryddion, sydd wedi’u gosod ar wyneb y môr ac ar wely’r môr, yn cyfuno camerâu tanddwr a sonar ac yn integreiddio’n uniongyrchol â seilwaith ynni adnewyddadwy ar y môr.

Dywedodd Dr David Gold, Prif Weithredwr Ecodetect: “Dim ond os gall ynni’r llanw ddangos ei fod yn cyd-fynd â bywyd morol y bydd yn gallu cyflawni ei lawn botensial. Mae Inyanga eisoes yn arwain y byd o ran datblygu ynni’r llanw. Gyda monitro deallus amser real, gall arwain y ffordd ym maes diogelu’r amgylchedd hefyd.”

Mae deallusrwydd artiffisial Ecodetect yn prosesu data wrth iddo gael ei gasglu, gan wahaniaethu’n awtomatig rhwng bywyd gwyllt morol, megis morloi, dolffiniaid, pysgod ac adar môr sy’n plymio, a gwymon, malurion ac algâu. Yna, mae ei rwydwaith cyfathrebu morol yn trosglwyddo’r canlyniadau mewn amser real, gan alluogi gweithredwyr i roi mesurau lliniaru amgylcheddol ar waith ar unwaith.

Mae’r un data hefyd yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos cydymffurfiaeth â safonau amgylcheddol y DU, yr UE a safonau rhyngwladol. Bydd prosiect HydroWing yn cael ei ddefnyddio ym Morlais ar Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru. Morlais yw’r cynllun ynni’r llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi cael caniatâd cynllunio. Menter gymdeithasol Menter Môn sy’n berchen ar Morlais, a Menter Môn Morlais Ltd sy’n ei reoli. Dywedodd

Andy Billcliff, Prif Swyddog Gweithredwr Menter Môn Morlais Cyf: “Bydd defnyddio prosiect HydroWing yn garreg filltir allweddol i ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru ac yn y DU. Mae’n wych y bydd y prosiect yn cynnwys technoleg monitro amgylcheddol o’r radd flaenaf, a ddarperir gan Ecodetect, cwmni technoleg arloesol sydd hefyd wedi’i leoli ar Ynys Môn. “Mae hon yn enghraifft ragorol o ddefnyddio cyflenwyr lleol, a fydd yn rhoi hwb pellach i economi Gogledd Cymru, gan greu swyddi newydd a buddion cymdeithasol.”

Disgwylir i ddyfais ynni’r llanw HydroWing gyntaf gael ei defnyddio ym Morlais yn 2027. Pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau yn 2030, bydd cyfanswm o 18 dyfais ynni’r llanw wedi’u defnyddio, a bydd pob un yn cynhyrchu 1.67 MW o drydan. Bydd hyn yn gwneud prosiect HydroWing Morlais yn un o brosiectau ynni’r llanw mwyaf yn y byd.


Pob Newyddion