Cyhoeddiad ynni adnewyddadwy'r llywodraeth
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cyhoeddiad ynni adnewyddadwy'r llywodraeth
Dydd Gwener Mawrth 8fed, 2024
Cynllun llanw Môn yn croesawu cyhoeddiad ynni adnewyddadwy'r llywodraeth
Mae Menter Môn Morlais cyf yn croesawu'r newyddion bod ynni llif llanw wedi’i glustnodi eto gan Lywodraeth y DU, fel rhan o'i arwerthiant ynni diweddaraf ar gyfer Contractau Gwahaniaeth (CfD).
Daeth y cyhoeddiad wythnos yn gynt na'r disgwyl, ac mae'n rhan o’r hyn sy’n cael ei alw’n AR6 (rownd dyrannu). Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys £10 miliwn sydd wedi ei neilltuo ar gyfer prosiectau ynni llif llanw, fel Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, ac yn rhan o bot ehangach gwerth £105m ar gyfer technolegau arloesol. CfD yw prif fecanwaith y llywodraeth ar gyfer cefnogi cynhyrchu ynni carbon isel, gan roi mesurau fel prisio gwarantedig yn eu lle.
Mae rowndiau tebyg yn y gorffennol, eisoes wedi sicrhau cyfanswm o 28MW ar gyfer pedwar datblygwr technoleg ynni'r llanw sy'n gysylltiedig â Morlais, gan roi sicrwydd iddynt ynghylch eu buddsoddiad. Ond gyda uchafswm capasiti cynhyrchu o 240 MW, mae tîm Morlais yn awyddus i ychwanegu at yr hyn.
Dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Cyf: "Gyda'r cyhoeddiad hwn ar AR6, rydym yn obeithiol y gallwn adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol. I ni, byddai canlyniad cadarnhaol yn anfon neges glir o hyder i'n rhanddeiliaid - o ddatblygwyr technoleg llanw sydd eisoes wedi ymrwymo i Morlais, neu i ddarpar fuddsoddwyr a phartneriaid.
"Fel unrhyw brosiect o’r raddfa yma, mae’n daith, ac mae pob rownd dyrannu CfD yn gam pellach ar gyd y llwybr. Rydyn ni'n gwybod bod ffordd bell i fynd, felly dydyn ni ddim am aros yn ein hunfan. Rydym yn benderfynol, o arwain y ffordd yn y sector fel y gallwn gyflawni'r hyn roedden ni’n ei fwriadu o’r dechrau – sef darparu budd lleol ac ychwanegu gwerth drwy'r gadwyn gyflenwi, ein cymunedau a'r amgylchedd.
“Rydym yn llawn sylweddoli beth yw arwyddocâd AR6 – mae’n newyddion da bod ynni llif llanw yn cael ei warchod a bydd canlyniad cadarnhaol yn golygu y gallwn gael mwy o ddyfeisiadau yn y dŵr i gynhyrchu trydan a sicrhau’r gwerth ychwanegol hwnnw.”
Mae disgwyl i ganlyniad AR6 gael ei gyhoeddi fis Medi.
Fel cwmni Menter Môn Morlais Cyf sy’n berchen ar isadeiledd Morlais, gan gynnwys yr is-orsaf newydd, y drwydded forol a’r ceblau i gysylltu gyda’r grid. Mae disgwyl i'r dyfeisiau ynni cyntaf gael eu gosod yn y môr o 2026.
Morlais yw'r safle ynni llanw mwyaf â chaniatâd yn Ewrop. Mae'n darparu model risg is i ddatblygwyr allu rhoi eu technoleg ar waith ar raddfa fasnachol. Cafodd cam cyntaf Morlais ei ariannu gan gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, yr NDA a Cynllun Twf Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi'r prosiect.