Cymru a Galicia yn cyd-weithio

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cymru a Galicia yn cyd-weithio

Dydd Llun Gorffennaf 14eg, 2025

Cymru a Galicia yn cyd-weithio i hybu ynni llanw

Mae prosiect newydd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau llanw ar y gweill yng Nghymru, gan ddod ag arbenigwyr blaenllaw o’r sector ynni morol ynghyd. Mae Menter Môn Morlais Cyf, perchennog un o gynllun ynni llanw mwyaf Ewrop, yn chwarae rhan ganolog wrth sbarduno’r fenter hon.

Gyda chefnogaeth o £1m gan Lywodraeth Cymru drwy raglen VInnovate, bwriad y prosiect yw dylunio llafnau tyrbin mwy effeithlon a gwydn, yn barod i’w gosod yn y môr oddi ar arfordir Môn. Yn ystod y prosiect, bydd AMRC Cymru, ORE Catapult, a Menter Môn Morlais Cyf yn cydweithio gyda dau gwmni o Galicia, sef Magallanes Renovables a D3 Applied Technologies. Mae'r bartneriaeth yn cyfuno arbenigedd mewn gweithgynhyrchu uwch, sgiliau dylunio arloesol, a phrofiad yn y maes ynni morol, ac yn addo cryfhau safle Cymru yn y sector technoleg ynni llanw.

Croesawodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Cyf, y cyfle a’r gefnogaeth ariannol, gan ddweud: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o gydweithio rhyngwladol ac yn cefnogi’r budd economaidd hirdymor ddaw i Ynys Môn - o ran swyddi, sgiliau, arloesedd ac ynni glân. Mae’n gam tuag at wneud ynni llanw yn rhan ganolog o’n dyfodol sero net yng Nghymru.”

Dywedodd Alejandro Marques, Prif Weithredwr Magallanes Renovables: “Rydym yn falch o allu cyfrannu ein harbenigedd mewn technoleg llanw i’r bartneriaeth yma. Drwy gyfuno ein profiad peirianneg ni yn Galicia, gydag arbenigedd Cymru ym maes ynni morol, gallwn gefnogi datblygiad sector ynni llanw sy’n gynaliadwy a masnachol. Mae’r prosiect yma yn dangos pa mor bwysig ydy cydweithio rhyngwladol wrth fynd i’r afael â heriau ynni glân.”

Y cam nesaf fydd creu prototeipiau a phrofi, fydd yn helpu i baratoi’r dechnoleg ar gyfer ei defnyddio’n mewn amgylchiadau go iawn. Bydd hefyd yn arwain at rannu gwybodaeth rhwng y partneriaid ac yn cyfrannu at arloesi pellach ym maes ynni llanw.


Pob Newyddion