Cytundeb ynni gwyrdd
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Cytundeb ynni gwyrdd
Dydd Mawrth 19eg Awst, 2025
Cwmni lleol yn ennill cytundeb ynni gwyrdd gwerth £10m
Wrth i gynllun ynni llanw yng ngogledd Cymru symud i'r cam nesaf, mae cwmni o’r rhanbarth wedi sicrhau'r cytundeb gwerth £10 miliwn i gyflawni'r gwaith adeiladu ym Mharc Cybi ger tref Caergybi. Mae gan Jones Bros Civil Engineers UK a Menter Môn Morlais Ltd bartneriaeth waith sydd wedi hen sefydlu, a’r contract newydd hwn yn addo mwy o swyddi lleol a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau. Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddiad diweddar o gyllid gwerth £9miliwn trwy Gynllun Twf Gogledd Cymru ar gyfer y gwaith yma, sy’n cael ei adnabod fel prosiect Cydnerth.
Dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais, perchennog y cynllun llanw: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r economi leol – ac mae’n dangos bod Morlais yn gwireddu ei addewid i ddod â manteision lleol hyd yn oed cyn i’r tyrbin cyntaf gael ei osod yn y môr. "Mae Jones Bros yn fusnes uchel ei barch sy'n rhannu ein gwerthoedd wrth i ni sicrhau cyflogaeth leol a bod pobl ifanc y rhanbarth yn cael y cyfle i weithio a datblygu sgiliau newydd yma yng ngogledd Cymru.
"Sicrhau budd lleol ydi’r prif sbardun i Morlais ers y cychwyn – mae'r contract newydd hwn yn atgyfnerthu hyn. Mae gan Jones Bros lawer o brofiad mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, felly rydyn ni’n falch o bartneru efo nhw eto ar gynllun a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol." Gyda’i bencadlys yn Rhuthun, bydd Jones Bros yn ymgymryd â gwaith gosod ceblau ar y safle, gan gryfhau’r cysylltiad grid yn barod ar gyfer pan fydd Morlais yn dod yn weithredol.
Ychwanegodd Eryl Roberts, Cyfarwyddwr Contractau Jones Bros: “Rydyn ni’n falch o gael ein penodi eto i gyflawni cam nesaf prosiect ynni adnewyddadwy Morlais, cynllun sydd mor arloesol. “Rydyn ni’n wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth drwy ynni glân ac mae gan ein tîm brofiad helaeth mewn prosiectau fel hyn ar hyd a lled y DU, felly mae dod â’r sgiliau hynny i Ynys Môn yn rhywbeth rydym yn edrych ymlaen ato unwaith eto.
“Yn yr un modd a’n holl brosiectau, byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi leol a phrentisiaid, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflawni’r cynllun pwysig hwn.”
Morlais yw’r prosiect ynni llanw mwyaf yn Ewrop gyda chaniatâd a dyma’r datblygiad llanw mwyaf yn y DU sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol.
Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, gall gynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân.
