Galw ar lywodraeth nesaf

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Galw ar lywodraeth nesaf

Dydd Iau 23ain o Ebrill, 2026

Ynni llanw – galw ar lywodraeth nesaf Cymru i weithredu i gyflawni uchelgais

Andy Billcliff yw Prif Weithredwr Menter Môn Morlais. Wrth i etholiad y Senedd agosáu, mae'n trafod yr hyn y mae'n credu sydd ei angen i sicrhau bod y sector ynni llanw mewn sefyllfa i gynhyrchu trydan glân all darparu buddion hir dymor i gymunedau lleol.

Gyda etholiad y Senedd ychydig wythnosau i ffwrdd, mae busnesau ynni adnewyddadwy fel ein un ni yn rhoi llai o sylw i’r clebran gwleidyddol a mwy i'r hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ei wneud i gyflawni ar yr agenda ynni glân. Wrth i ni symud i seithfed tymor y Senedd, rydyn ni yn Morlais yn barod i ddechrau cynhyrchu trydan. Yr hyn sydd ei angen bellach yw cydweithio a mwy o frys i symud y sector yn ei flaen.

Ar hyn o bryd i ni yn Morlais a'r sector llanw yn ehangach, mae hynny yn golygu gweithredu mewn sawl maes. Er mwyn dechrau cynhyrchu trydan glân, mae angen rhoi prosesau cyflymach yn eu lle i sicrhau caniatâd; cyflwyno mwy o gefnogaeth i waith ymchwil a datblygu ar gyfer monitro amgylcheddol; ac adnabod a rhoi mecanweithiau ariannu cliriach yn eu lle fydd yn caniatáu i’n datblygwyr roi eu dyfeisiau yn y dŵr yn gynt.

Mae Morlais yn fwy na chynllun ynni glân a nid dim ond materion amgylcheddol sy’n ein gyrru ni. I Ynys Môn, mae'r prosiect yn cynrychioli buddsoddiad yn ein cymunedau, cyfleoedd i fusnesau lleol, llwybrau gyrfa a hyfforddiant i bobl ifanc – yn ogystal â thrydan glân a all gyfrannu'n at weithredu ar yr hinsawdd a chyrraedd targedau sero net.

Er yr adnodd llanw anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru, a’r blynyddoedd o waith sydd eisoes wedi ei wneud yn lleol gan dîm Morlais, mae twf yn y sector lif llanw yn parhau i gael ei gyfyngu gan broses ganiatáu araf, rheoleiddio cymhleth a diffyg llwybrau ariannu clir. Mae gan Cymru gyfle gwirioneddol i arwain y DU yn y maes, ond dim ond os yw llywodraeth nesaf Cymru yn barod i weithredu ac yn rhannu ein huchelgais.

Rydym wedi gweld camau cadarnhaol yn ddiweddar, gan gynnwys Bargen y Sector Ynni Adnewyddadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth bresennol Cymru ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer llif llanw yn y rownd ddyrannu Contractau ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) nesaf. Byddai hyn yn golygu sicrwydd incwm, wedi'i gefnogi gan Lywodraeth y DU ar gyfer y pum datblygwr tyrbin llanw sy'n cyd-wethio efo ni ym Morlais.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wariant wedi'i gynllunio ar gyfer prosiectau llanw trwy GB Energy. Heb lwybr at gyllid, ni allwn gael dyfeisiau yma. Mae'r seilwaith yn barod. Mae'r uchelgais yma. Ac ers dros bum mlynedd rydym wedi gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi, partneriaid rhanbarthol a'r sector addysg bellach i wneud yn siŵr bod gogledd Cymru yn barod hefyd.

Cawn weld sut y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn mynd ati i weithredu ar ynni adnewyddadwy a llanw yn benodol. Mae cefnogaeth drawsbleidiol i Morlais. Yr hyn sydd ei angen bellach ydy ymrwymiad a chamau i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy'n ein wynebu, fel y gallwn ddechrau cynhyrchu trydan a throi uchelgais yn realiti.

Mae Menter Môn Morlais wedi rhannu ei gofynion allweddol gyda phob plaid cyn Etholiad y Senedd ar Fai 7fed. Darllenwch y maniffesto yma.

Mae Morlais yn brosiect ynni llif llanw oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae’n cael ei reoli gan Menter Môn Morlais Cyf gyda’r nod o sicrhau fudd i gymunedau lleol, yr economi a'r hinsawdd trwy gynhyrchu trydan carbon isel glân gan ddefnyddio ynni’r llanw. Mae gan y cynllun gapasiti cynhyrchu o 240MW gyda disgwyl i'r dyfeisiau cyntaf gael eu gosod yn y mor o haf nesaf.


Pob Newyddion