Monitro gweithgaredd dolffiniaid
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Monitro gweithgaredd dolffiniaid
Dydd Llun 17eg Tachwedd, 2025
Technoleg newydd yn monitro gweithgaredd dolffiniaid am y tro cyntaf
Ar ôl saith mis o gasglu data, mae ymchwilwyr wedi llwyddo i recordio gweithgaredd dolffiniaid am y tro cyntaf gan ddefnyddio cyfuniad arloesol o dechnolegau monitro. Mae’r montage munud o hyd wedi ei greu o glip hanner awr, yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrechion i ddiogelu bywyd gwyllt oddi ar arfordir Ynys Môn yn ystod datblygiad prosiect ynni llanw Morlais.
Mae’r cam arwyddocaol hwn wedi deillio o waith Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP), dan arweiniad y fenter gymdeithasol, Menter Môn. Am y tro cyntaf, mae offer sonar a sain wedi’u cyfuno â chamerâu tanddwr a chamerâu sy’n arnofio, er mwyn monitro mamaliaid morol gan gynnwys dolffiniaid, mewn amser real. Gobaith y tîm rhyngwladol sy’n gyfrifol am y gwaith, dan arweiniad Menter Môn, yw cyflwyno’r dechnoleg ar gyfer defnydd masnachol maes o law.
Dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Cyf: “Mae’r newyddion hwn yn gam pwysig ac arwyddocaol yn y ffordd rydan ni’n glofau am yr amgylchedd a bywyd gwyllt wrth ddatblygu prosiectau ynni morol.
“Trwy brofi ein bod yn gallu monitro bywyd gwyllt yn effeithiol heb amharu ar eu cynefin a’u patrymau ymddygiad, rydan ni’n gosod y sylfaen ar gyfer diwydiant newydd mewn ffordd gyfrifol. Gydag arbenigwyr o’r DU ac o’r UDA yn rhan o’r gwaith, mae’r cydweithio ar draws ffiniau a sectorau yn dangos beth sy’n bosibl pan mae cynaliadwyedd yn cael ei roi wrth galon datblygiad fel hyn.”
Wedi’i ariannu gan Ystâd y Goron a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), mae’r prosiect yn diogelu mamaliaid morol tra’n cefnogi twf y diwydiant ynni llanw. Mae’r amser mae wedi ei gymryd i gofnodi unrhyw weithgaredd dolffiniaid ym mharth Morlais hefyd wedi cadarnhau yr hyn roedden ni yn ei ragdybio, sef nad oes llawer o ddolffiniaid o fewn ardal prosiect Morlais. Gyda’r clip yma wedi’i gynhyrchu, y nod bellach fydd mireinio’r dechnoleg deallusrwydd artiffisial sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y system.
Dywedodd Sol Anitua, Pennaeth Seilwaith ac Ynni Morol Ystad y Goron: “Ein gweledigaeth yw creu’r economi a’r amgylchedd morol mwyaf deniadol a chynaliadwy yn y byd. Mae’n wych bod tîm Morlais wedi llwyddo i gasglu a defnyddio data i gefnogi prosiect ynni llanw mewn ffordd sy’n torri tir newydd – ond hefyd mewn ffordd a allai fod â photensial llawer ehangach ar gyfer sectorau morol eraill.
“Mae bod yn arloesol wrth gasglu a defnyddio data a thystiolaeth yn hanfodol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut y gallwn ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng datblygu seilwaith ynni morol a diogelu ac adfer natur. Mae’n galonogol gweld ymdrech ar y cyd fel hyn yn datblygu offer arbenigol a all roi mwy o hyder i fuddsoddwyr a datblygwyr ym mhotensial y sector cyffrous hwn yn y DU.”
Mae’r camau nesaf yn cynnwys cyfuno data o’r gwahanol synwyryddion i geisio adnabod gwahanol rywogaethau o famaliaid. Bydd hyn yn caniatáu dealltwriaeth well o’r ffordd y mae gwahanol anifeiliaid yn ymddwyn o amgylch technoleg ynni llanw. Yn ogystal ag Ystâd y Goron a Menter Môn Morlais, mae’r arbenigwyr technoleg forol, Seiche and MarineSitu yn bartneriaid yn y prosiect. Wedi ei ddatblygu’n llawn, y gobaith yw y byddai’n bosib defnyddio’r dechnoleg ar gyfer prosiectau fferm wynt ar y mor, a diwydiannau eraill sy’n chwilio am ffyrdd o leihau eu heffaith ar fywyd gwyllt morol.
