Morlais yng Nghynhadledd
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Morlais yng Nghynhadledd
Dydd Gwener 1af Mai, 2026
Llwyfan i Menter Môn Morlais yng Nghynhadledd MEW2026
Roedd safle a rôl blaenllaw Cymru yn y sector ynni morol yn amlwg yn MEW2026 (Marine Energy Wales), a ddaeth â'r sector ynghyd yn Venue Cymru yn Llandudno ar 28 a 29 Ebrill 2026. Roedd Menter Môn Morlais ymysg y sefydliadau a oedd yn bresennol, gan dynnu sylw at y twf mewn prosiectau, cyfleoedd a buddsoddiad o fewn y sector yng Ngogledd Cymru.
Pwyslais y digwyddiad eleni oedd ‘Adeiladu ein Dyfodol Ynni Morol’ gyda chreu swyddi, casglu tystiolaeth amgylcheddol a chyflawni yn ganolog i’r sgyrsiau. Daeth ddatblygwyr, porthladdoedd, gweithgynhyrchwyr, darparwyr hyfforddiant a rheoleiddwyr at ei gilydd i drafod y cyfleodd a’r heriau sy’n debyg o wynebu ynni morol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
Roedd tîm Menter Môn Morlais yn flaenllaw yn y gynhadledd ac yn cymryd rhan mewn nifer o’r trafodaethau, gan dynnu sylw at safle’r cynllun o fewn y sector ehangach.
Pwnc trafod un o'r sesiynau oedd sgiliau a swyddi, a’r llwybrau hyfforddiant sydd ar gael i bobl ifanc. Roedd Fiona Parry, Rheolwr Buddion Lleol gyda Morlais ymhlith y panelwyr. Soniodd sut mae gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant lleol yn rhan greiddiol o'r paratoadau ym Morlais i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn barod ar gyfer y cyfleoedd y mae ynni'r llanw yn eu cynnig i ogledd Cymru.
Cymerodd Helen Roberts, Rheolwr Prosiect Amgylchedd a Chydymffurfiaeth yn Menter Môn Morlais, ran yn y sesiwn ar fonitro amgylcheddol. Edrychodd y drafodaeth ar sut roedd technoleg monitro yn cael ei defnyddio'n ymarferol a sut mae data'n cael ei ddehongli. Daeth Helen â'i phrofiad helaeth o roi technoleg monitro arloesol ar waith i'r drafodaeth gan sôn am sut i feithrin hyder mewn canlyniadau a data ar gyfer cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau.
Daeth y gynhadledd i ben gyda sesiwn ar brif ganfyddiadau’r gynhadledd. Roedd Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr Menter Môn Morlais, yn rhan o'r panel cloi.
Wrth edrych yn ôl ar y ddau ddiwrnod, dywedodd: “Mae bob amser yn bleser mynychu cynhadledd MEW. Mae'n gyfle i ni ddangos a sôn am y gwaith rydyn ni'n ei wneud ym Morlais fel un o'r cynlluniau llanw mwyaf yng Nghymru, ond hefyd i ddysgu a rhannu syniadau gyda chydweithwyr o bob cwr o'r sector. Wrth i ynni morol dyfu yng Nghymru, mae Morlais yn falch o fod yn rhan o’r sector ac i arwain y ffordd. Roedd hi’n glir o’r sgyrsiau gafwyd bod cydweithio yn parhau i fod yn bwysig er mwyn ein galluogi ni i droi uchelgais yn realiti.”
