Pennod newydd i Morlais

Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Pennod newydd i Morlais

Dydd Iau 20fed o Chwefror, 2025 

Pennod newydd i ynni llanw Ynys Môn trwy lansiad Cydnerth

Bydd gwaith yn dechrau ar safle yng Nghaergybi yn fuan i gryfhau’r cysylltiad grid ar gyfer cynllun ynni llanw Menter Môn, Morlais. Dyma garreg filltir bwysig arall i'r prosiect, fydd yn gweld trydan glân yn cael ei gynhyrchu oddi ar arfordir Ynys Môn.

Yn eiddo i fenter gymdeithasol Menter Môn, bydd y gwaith ar brosiect Cydnerth ym Mharc Cybi yn sicrhau bod Morlais mewn sefyllfa gref i dyfu a chyrraedd ei gapasiti cynhyrchu o 240 MW. Bydd hefyd yn creu swyddi newydd a chyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi, gan gadarnhau safle gogledd Cymru ar flaen y sector ynni llanw.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd clirio coed yn digwydd i osod ceblau tanddaearol i drosglwyddo trydan o is-orsaf Morlais ger Ynys Lawd i'r grid cenedlaethol. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y tir yn cael ei adfer gyda thirlunio ac ailblannu coed.

John Idris Jones yw cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf, dywedodd: “Rydyn ni’n croesawu’r cam yma, sy’n dod a ni’n agosach at sicrhau fod Ynys Môn yn gallu gwneud y mwyaf o’n hadnoddau llanw naturiol, gan drawsnewid yr ardal yn ganolbwynt ynni cynaliadwy. Mae’r gwaith ym Mharc Cybi i wella cysylltiad y grid yn rhan hanfodol o’r broses hon, a bydd yn ein galluogi i ddarparu trydan glan, carbon isel yn fwy effeithlon.

“Rydyn ni’n deall y pwysigrwydd amddiffyn yr hamgylchedd yn lleol a byddwn yn gwneud pob dim i sicrhau na fydd y gwaith hwn yn amharu ar y gymuned. Bydd y tir yn cael ei adfer yn llawn ar ôl y gwaith, ac ni fydd unrhyw effaith ar fynediad i lwybrau cyhoeddus. Fel cwmni lleol, mae sicrhau bod y prosiect o fudd i'n cymunedau wrth barchu'r tirwedd naturiol yn holl bwysig."

Mae Jones Bros Civil Engineering UK Ltd, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru wedi ei benodi fel contractwr ar gyfer y gwaith. Gyda pencadlys yn Rhuthun, mae'r cwmni wedi ymrwymo i gyflogi staff lleol a chefnogi prentisiaid lleol.

Ychwanegodd John Idris Jones: “Mae cyfraniad Jones Bros yn golygu bod cam nesaf Morlais nid yn unig yn darparu seilwaith hanfodol ond hefyd yn dod a budd economaidd i'r gymuned trwy ddatblygu swyddi a sgiliau. Mae hyn wedi bod yn ffactor bwysig i Morlais ers y cychwyn.”

Mae’r cam nesaf hwn o’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd sy’n gyfrifol am y Cynllun Twf. Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd: "Mae hon yn garreg filltir bwysig i Morlais a Gogledd Cymru. Gall y prosiect rwan wneud yn fawr o arian y  Cynllun Twf er mwyn hybu’r sector, datgloi cyfleoedd economaidd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi swyddi lleol. Bydd yn sicrhau bod y rhanbarth yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni llanw ac wrth gynhyrchu trydan glân.”

Morlais yw’r cynllun ynni llanw mwyaf yn Ewrop i dderbyn caniatâd i ddatblygu. Cafodd yr is-orsaf sydd yn gysylltiedig â’r prosiect ei gwblhau yn 2023 ac mae disgwyl i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026.


Pob Newyddion