Restr fer Gwobrau Ynni Gwyrdd
Cartref > Newyddion > Newyddion Diweddaraf > Restr fer Gwobrau Ynni Gwyrdd
Dydd Mawrth Mawrth 25ain, 2025
Prosiect Ynni Llanw Morlais ar restr fer Gwobrau Ynni Gwyrdd
Mae cynllun ynni llanw o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ynni Gwyrdd y DU yn y categori Datblygwr Ynni Sero Net. Yn gynllun sy’n cael ei weithredu gan Menter Môn Morlais ac yn is-gwmni i Menter Môn, mae trefnwyr y gwobrau yn cydnabod ymrwymiad Morlais i sicrhau budd amgylcheddol ac economaidd y cynllun i’r ardal leol.
Mae’r Gwobrau Ynni Gwyrdd yn rhoi sylw i dechnoleg arloesol yn ogystal â chwmnïau sy’n creu argraff wirioneddol yn y sector ynni carbon isel. Y nod yw rhoi llwyfan i’r rhai sy’n arwain y ffordd o ran hyrwyddo a defnyddio systemau ynni glanach. Morlais yw’r unig brosiect o Gymru i gyrraedd rhestr fer y gwobrau.
Unwaith y bydd yn weithredol, bydd gan Morlais gapasiti i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel – dyma’r cynllun ynni llif llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi derbyn caniatâd datblygu. Gyda gwaith adeiladu’r is-orsaf wedi’i gwblhau, a gwaith yn parhau i gryfhau cysylltiadau grid, mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr oddi ar arfordir Caergybi yn 2026.
John Idris Jones yw Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf, wrth groesawu’r llwyddiant dywedodd: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn ganlyniad arbennig i Morlais. Mae’n dyst i waith caled y tîm, ein arloesedd ac ymroddiad pawb sy’n ymwneud â’r cynllun.
“Nid dim ond cynhyrchu ynni glân yw bwriad y prosiect – mae’n ymwneud â hyrwyddo cynaliadwyedd, rhoi hwb i’r economi leol, creu swyddi, a chryfhau’r cadwyni cyflenwi. Rydyn ni hefyd yn gosod safonau newydd mewn cadwraeth forol, gan ddefnyddio technoleg ddiweddaraf i fonitro bywyd gwyllt lleol. Mae cyrraedd y cam yma’n garreg filltir gyffrous, ac mae’n cryfhau ein hymrwymiad i sicrhau effaith gadarnhaol ar ein cymuned a thu hwnt.”
Mae'r Gwobrau Ynni Gwyrdd yn cael eu trefnu gan Regen, sefydliad dielw sy'n helpu i lunio dyfodol ynni glân trwy ddarparu cyngor arbenigol, ymchwil a dylanwadu ar bolisi. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ym Mryste ar y 27ain o Fawrth – gan ddod â busnesau a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector ynni gwyrdd at ei gilydd.
Mae Menter Môn Morlais wedi derbyn cefnogaeth a chyllid gan Llywodraeth Cymru, NDA (Awdurdod Datgomisiynu Niwclear), Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.
